Mae Cyngor Abertawe’n falch o gyflwyno ei bartneriaeth â Princes Gate, sef y cyflenwr dŵr swyddogol ar gyfer ras 10k Bae Abertawe Admiral 2024.
Mae’r cydweithrediad yn cynnwys rhoi dŵr naturiol o Gymru i redwyr yn ystod y ras, ac mae hefyd yn lleihau effaith y digwyddiad ar yr amgylchedd trwy fenter ailgylchu flaengar.
Dyma’r ail flwyddyn lle bydd y bartneriaeth yn defnyddio system ailgylchu ‘dolen gaeedig’, lle bydd Princes Gate yn cynhyrchu poteli newydd gan ddefnyddio’r plastig sydd wedi’i ailgylchu o’r rheini a gasglwyd yn y ras, sydd wedi’u creu o blastig rPET 100% wedi’i ailgylchu, ac eithrio’r clawr a’r label, ac sy’n hollol ailgylchadwy.
Mae 100% o’r holl boteli a ddarperir ar hyd y cwrs wedi’u gwneud o blastig wedi’i ailgylchu, ac maent yn hollol ailgylchadwy.
Rydym yn annog rhedwyr i ail-hydradu a rhoi eu poteli dŵr gwag yn y biniau a ddarperir fel y gellir eu casglu, eu hailglchu a’u defnyddio i greu potel arall.
Rhedeg. Ailhydradu. Ailgylchu.