Gydag ychydig wythnosau’n unig ar ôl i gofrestru, ac ychydig dros 4 wythnos tan y ras, dylai’r hyfforddi wir wedi cynyddu erbyn hyn. Byddwch yn dechrau gweld eich cyflymder, eich pellter a’ch iechyd cyffredinol yn gwella oherwydd y rhedeg rheolaidd, a byddwch naill ai’n dechrau teimlo’n nerfus neu’n gyffrous. Naill ffordd neu’r llall, mae 10k Bae Abertawe Admiral yn ras wych y byddwch yn ei mwynhau mewn lleoliad hyfryd.
Os ydych yn pryderu, fel y mae llawer ohonoch mae’n siŵr, yna dylech gofio bod y 10k, yn ogystal â bod yn rhan o gyfres o rasys, hefyd yn ras hwyl i’r athletwyr a’r rhedwyr hamddenol.
Bob blwyddyn, mae nifer yn cymryd rhan am y tro cyntaf a phob blwyddyn maent yn hapus eu bod wedi cwblhau ras 10k, nid yn seiliedig ar eu hamser yn bennaf, ond am gadw at gynllun hyfforddi, bod yn fwy heini ac iach, a hefyd gwneud gwelliannau a newidiadau bychain i’w ffordd o fyw.
Felly, os nad ydych eisoes wedi cofrestru, mae gennych tan 31 Awst i wneud hynny. Beth am gynnwys eich teulu cyfan? Rydym yn cynnal rasys 1k a 3k, gyda ras masgod hefyd i ychwanegu at awyrgylch a hwyl y dydd. Cyflwynwch eich plant i ymarfer corff mewn ffordd hwyl, drwy gymryd rhan yn un o rasys gorau’r DU.
I gofrestru ar gyfer y brif ras 10k, cliciwch yma. http://www.10kbaeabertawe.com/enter-10k-race