Mae Abertawe a’i chyffiniau’n lle mor hyfryd, does dim angen mynd ar wyliau os ydych yn byw mewn lleoliad mor wych. Os ydych yn dwlu ar redeg cymaint â mi, efallai byddwch am roi cynnig ar y gystadleuaeth ffotograffiaeth ‘be inspired’ sy’n annog rhagor o bobl i fentro i’r awyr iach, dechrau rhedeg a mwynhau’r golygfeydd o’u cwmpas.
Bydd enillydd lwcus y gystadleuaeth ffotograffiaeth yn derbyn wats GPS Garmin Forerunner 620 a theclyn monitro cyfradd curiad y galon (gwerth £360) i’w helpu i gyrraedd y lefel nesaf.
Beth mae angen i chi ei wneud? Tynnwch lun ysbrydoledig ohonoch eich hun yn rhedeg a dilyn y cyfarwyddiadau yma.
Mae’r gystadleuaeth yn para o 15 Mai tan ganol dydd, ddydd Llun 2 Mehefin 2014.
Ble yn Abertawe sy’n cynnig y cyfle gorau i dynnu hunlun rhedeg yn eich barn chi? Un o’n parciau hyfryd? Un o’n traethau bendigedig? Yn y bryniau?