Gyda chynifer o’n rhedwyr yn eistedd wrth ddesg trwy’r dydd, roedden ni eisiau awgrymu rhai ymarferion difyr i’w gwneud yn y swyddfa i wella’ch perfformiad a’ch rhaglenni hyfforddi.
Y cyntaf yw codi coesau mewn sedd, ffordd lechwraidd o ymarfer corff o dan y ddesg wrth deipio. Codwch un goes, neu’r ddwy, am 5 eiliad a’u gostwng eto, gan ailadrodd hyn gynifer o weithiau ag sy’n teimlo’n gyfforddus. Teimlo’n heini? Beth am ychwanegu pwysau? Clymwch bwrs neu strapen neu fag dogfennau dros eich migwrn wrth godi’ch coes(au).
Eistedd yn erbyn wal, wrth aros am y llungopïwr neu i’r tegell ferwi. Dyma ymarfer gwych ar gyfer eich morddwydydd a’ch craidd.
Codi’ch ysgwyddau (rhybudd – peidiwch â gwneud hyn yn ystod cyfarfodydd oni bai’ch bod chi eisiau mynegi barn, neu wrth siarad â’ch pennaeth), ond bydd codi’ch ysgwyddau, ac ymlacio eto, yn eich helpu i gael gwared ar straen, yn ogystal â helpu gyda ffyrfhau’ch ysgwyddau a’ch gwddf.
Gwasgu’n dawel mewn sedd, er mwyn cael cyhyrau ffolen duwiol, wrth deipio neu ddarllen eich e-byst, tynhewch eich ffolennau, eu dal, a’u rhyddhau – mor syml â hynny – a bydd gennych ben-ôl cyn pen dim.
Cyhyrau abdomen haearn llechwraidd, yn debyg i’r uchod ond canolbwyntiwch ar eich cyhyrau abdomen yn hytrach na’ch ffolennau. Yn fuan bydd gennych gyhyrau abdomen sy’n haeddu haul yr haf.
Defnyddio’r grisiau, syniad syml iawn yn wir, ond os ydych fel arfer yn defnyddio’r lifft, rhowch gynnig ar y grisiau ac yn fuan byddwch yn llosgi’r calorïau ac yn ymarfer eich coesau. Gan y byddwch ond yn mynd ychydig o loriau bob tro, ar y cyd, bydd gwneud hyn sawl gwaith y dydd yn sicr yn gwneud gwahaniaeth.
Allwch chi feddwl am fwy o ymarferion swyddfa cyfeillgar, difyr a syml a fydd yn helpu rhedwr 10k eraill?
———————————
Oddi wrth eich rhedwr cymdogaeth cyfeillgar