Bydd sawl aelod o staff Grŵp Admiral yn cymryd rhan yn ras 10k Bae Abertawe Admiral eleni.
Gyda’r digwyddiad a gynhelir ddydd Sul 16 Medi yn prysur nesáu, mae dros 250 o staff Grŵp Admiral yn brysur yn gwneud eu paratoadau terfynol cyn cymryd rhan.
Byddant ymhlith miloedd sy’n cymryd rhan yn y prif ddigwyddiad, gyda rasys 1k, 3k a 5k i blant hefyd yn cael eu cynnal ar y diwrnod.
Mae digwyddiadau hwyl eraill yn cynnwys ras masgotiad 100 metr y tu allan i San Helen sy’n dechrau tua 10 munud ar ôl y brif ras.
Meddai Ceri Assiratti, Pennaeth Gwasanaethau Pobl Admiral, “Mae’n bleser gennym noddi ras 10k Bae Abertawe Admiral a’r rasys iau am y 12fed flwyddyn yn olynol. Mae noddi digwyddiadau yn ein cymuned leol yn rhan bwysig o ddiwylliant Admiral ac mae’n wych bod yn rhan o ddigwyddiad fel hwn sy’n datblygu’n fwy poblogaidd blwyddyn ar ôl blwyddyn.
“Mae nifer y gweithwyr sydd wedi cofrestru i gymryd rhan yn ras 2018 yn amlygu ei phwysigrwydd i’n staff a’r ardal leol. Hoffwn achub ar y cyfle hwn, ar ran pawb yn Admiral, i ddymuno pob lwc i’r holl redwyr.”
Eleni yw’r wythfed flwyddyn y mae Steve Williams-Jones o adran Hawliadau Admiral wedi cymryd rhan. Rhedodd ei ras gyntaf yn 2007 ac mae wedi cymryd rhan bron bob blwyddyn ers hynny.
Mae Steve yn dioddef o gyflwr iechyd tymor hir ac mae rhedeg yn ei helpu i gadw’n heini ac ar y trywydd iawn.
Meddai, “Mae’n gwrs gwych i’w redeg arno – nid yw’n rhy brysur, mae’n wastad ac mae’r golygfeydd mor odidog. Mae yna awyrgylch gwych, nid yw’n teimlo’n rhy gystadleuol ac mae pawb i weld yn cael amser da. Mae’r gefnogaeth gan wylwyr a’r preswylwyr ar hyd y llwybr hefyd yn wych ac mae’n rhoi hwb i chi wrth redeg.”
Eleni, bydd Steven yn rhedeg gyda’i gydweithiwr, Jo Griffiths, sydd hefyd o’r adran Hawliadau.
Dyma’r pumed tro i Jo gymryd rhan, ac mae fel her bersonol iddi. Meddai, “Rwyf wir yn mwynhau’r awyrgylch ac mae pawb yn cefnogi ei gilydd, ni waeth beth yw eich gallu”.
Mae’n ddigwyddiad gwych i’r teulu ac mae’n helpu bod y llwybr yn un da hefyd – does dim bryniau mawr!” Mae plant Jo hefyd wedi cymryd rhan dros y blynyddoedd a bydd ei phlentyn ieuengaf yn cymryd rhan yn y ras 1k eleni.
Meddai’r Cyng. Robert Francis-Davies, Aelod Cabinet Cyngor Abertawe dros Arloesedd, Adfywio a Thwristiaeth, “Mae Grŵp Admiral wedi bod yn noddi ras flynyddol 10k Bae Abertawe Admiral am nifer o flynyddoedd, gan helpu’r digwyddiad i dyfu mewn statws a phroffil.
“Rwy’n annog cynifer o bobl â phosib i sefyll ar hyd y llwybr i gefnogi’r cyfranogwyr, ni waeth os ydynt yn athletwyr o’r radd flaenaf neu’n rhedwyr hwyl sy’n codi arian ar gyfer elusen.”
Croesawir gwylwyr o 10am – cynhelir y rasys iau rhwng 10.45am a 12pm a bydd y brif ras yn dechrau am 1pm.