Mae’n anodd mynd fwy nag unwaith yr wythnos, ond rwyf wedi ceisio mynd ddwywaith yr wythnos. Un ar ddydd Sul ac un ar ddydd Mawrth – mae fy nghoesau’n brifo felly rwy’n meddwl stopio rhedeg ar ddydd Mawrth. Mae bellach yn fis Mai ac rwyf dal yn rhedeg 7k ac yn rhwystredig gyda’m hamseroedd. Ni allaf fynd yn gynt – grrr. Rwyf wedi derbyn peth cyngor defnyddiol gan ffrindiau sy’n rhedeg a chydweithwyr sy’n awgrymu sbrintio. Nid wyf wedi rhoi cynnig ar hyn eto! Rwyf hefyd wedi gwneud camgymeriad gan redeg 7k mewn cawod law anferthol – ofnadwy! Meddyliais y byddwn yn rhoi cynnig arno oherwydd ei fod yn arllwys y glaw y llynedd – roedd yn ofnadwy ond o leiaf fy mod wedi paratoi ychydig. Mae 10k yn teimlo’n bell o’m gafael…
Mae fy mhen-blwydd ym mis Mai hefyd – 38 oed, am ddiflas (pam na all amser ddod i derfyn neu fynd am yn ôl?) Serwm i’m hwyneb/llenwadau sment ac esgidiau ymarfer Nike Anodyne oren llachar! Diolch ŵr. Mae’n drist iawn ond ni allaf aros i roi cynnig arnynt, yn enwedig oherwydd nawr bod gennyf anaf rhyfedd i’m troed lle mae fy mysedd traed yn fferru ar fy nhroed chwith – unrhyw syniadau redwyr? Efallai ei bod hi’n amser cael triniaeth adweitheg? Hwre! Mae gennyf git llawn nawr oherwydd bod siop Nike wedi cau ym Mhen-y-bont ar Ogwr. Gallaf deimlo bod 8k ar y gweill. Mae’n ymdrech ac rwyf wedi blino!