Eich cyfle olaf i gyflwyno cais ar gyfer y ras flynyddol, a gynhelir ddydd Sul 24 Medi, yw dydd Iau 31 Awst.
Cyngor Abertawe sy’n cynnal y ras, ac mae’n cael ei noddi gan Admiral am yr unfed flwyddyn ar ddeg yn olynol.
Yn ogystal â’r 10k, bydd rasys iau 1k, 3k a 5k yn ogystal â ras gadair olwyn 10k.
Disgwylir i dua 4,500 o bobl gymryd rhan unwaith eto eleni.
Meddai’r Cyng. Robert Francis-Davies, Aelod Cabinet Cyngor Abertawe dros Ddiwylliant, Twristiaeth a Phrosiectau Mawr, “Gyda chynifer o olygfeydd prydferth ar garreg ein drws, mae rhedeg yn rhan o ddiwylliant cyfoethog Abertawe ac rydym yn gobeithio y bydd yn ein helpu i ennill teitl Dinas Diwylliant y DU 2021.
“Mae Ras 10k Bae Abertawe Admiral, sy’n un o ddigwyddiadau mwyaf poblogaidd y flwyddyn yn Abertawe, yn ras wych i athletwyr profiadol, pobl sy’n codi arian ar gyfer elusennau a phobl sydd am guro eu hamseroedd gorau neu drechu nodau ffitrwydd personol. Gyda golygfeydd prydferth Abertawe yn y cefndir a’r ras yn cael ei rhedeg ar lwybr gwastad, mae’r digwyddiad arobryn hwn hefyd yn cynnwys rasys i blant sy’n rhoi cyflwyniad perffaith i redeg ar y ffordd.
“Gyda’r dyddiad cau ar ddiwedd mis Awst, byddwn yn annog unrhyw un sydd â diddordeb yn y digwyddiad eleni i gyflwyno cais cyn gynted â phosib er mwyn osgoi cael ei siomi gan fod y ras bob amser yn llawn. Mae’r bobl sy’n cymryd rhan yn y ras bob amser yn gadarnhaol iawn am y profiad oherwydd y modd y caiff ei threfnu a’i rheoli, heb anghofio am y gefnogaeth maent yn ei derbyn gan y cannoedd o bobl sy’n dod i gefnogi.”
Yn gynharach eleni, enwyd Ras 10k Bae Abertawe Admiral fel ail ras 10k orau’r DU yng Ngwobrau Rhedeg 2017, ac enillodd y rasys iau’r teitl ar gyfer ‘Digwyddiad Gorau i Blant y DU’.
Cynhelir ras y masgotiaid ar y dydd hefyd, a gwahoddir ceisiadau gan grwpiau, sefydliadau a chwmnïau sy’n gobeithio ennill y wobr o £100 ar gyfer y masgot buddugol.
COFRESTRWCH NAWR