Mis Chwefror o hyd… Roedd hi’n bwrw hen wragedd a ffyn, roedd fy ngŵr yn y gwaith ac roedd y plant allan am ginio, felly dyma oedd y cyfle perffaith i mi fynd am fy nhaith redeg wythnosol (mae’r cyfleoedd hyn i fod ar fy mhen fy hun yn rhai prin ac fel arfer ni fyddwn yn rhedeg, bwyta siocled ac ymlacio rwy’n ei wneud fel arfer, neu hyd yn oed edrych o amgylch y siopau.) Ond dyma fi, yn benderfynol o guro fy amser blaenorol (oherwydd fy mod yn bwriadu rhedeg ar hyd yr un llwybr.) Bellach yn gwisgo top rhedeg newydd (sy’n well nag un fy ngŵr) a’r un het bêl-fas (yn debyg i fasgod lwcusJ), roeddwn yn bryderus rhag ofn taw lwc oedd yr wythnos ddiwethaf ac nid wyf yn gallu rhedeg mewn gwirionedd a dwi ddim yn hoff iawn o’r glaw. Mewn gwirionedd, mae’r glaw yn fy nigalonni ac mae’n well gen i fod yn y tŷ yn yfed siocled poeth.
Rhaid fy mod yn fwy caled nag oeddwn yn meddwl oherwydd nid oedd y glaw yn fy mhoeni. Roeddwn yn arfer meddwl bod pobl bach yn ddwl wrth ddweud “Mae rhedeg yn y glaw yn wych oherwydd ei fod yn eich oeri.” Mae hyn yn wir. Daeth y llais Americanaidd hyfryd yn fy nghlust eto bob milltir a chyflymais i guro amser yr wythnos ddiwethaf o 30 munud a 10 eiliad.
Mewn gwirionedd, yr hyn a ddigwyddodd oedd ei fod wedi cymryd 30 munud a 25 eiliad ond rhaid fy mod wedi dechrau’r app ychydig yn gynharach na’r wythnos flaenorol oherwydd wnes i redeg 2.6 milltir. Cefais gymeradwyaeth gan y llais Americanaidd am fy nhaith redeg hwyaf erioed (bach dros ben llestri ond nid wyf yn mynd i ddadlau â Nike!) Unwaith eto, mi wnes i fwynhau’n fwy nag oeddwn i’n tybio ac efallai fy mod i wedi dechrau mwynhau rhedeg. Dychwelodd fy nghoesau crynedig ond a yw hyn byth yn diflannu?
Yn anffodus, nid oedd unrhyw un yn y tŷ i mi siarad â nhw am fy nhaith redeg felly anfonais neges destun i’m cyfeillion rhedeg a oedd wedi anfon neges yn ôl ataf yn fy llongyfarch. Rwy’n dechrau meddwl am brynu esgidiau hyfforddi newydd a chyfarpar rhedeg eraill (rwy’n dychmygu y bydd y rhain yn gwneud i mi redeg yn well!) Rwy’n bwriadu rhedeg ychydig ymhellach y tro nesaf.