Un ffordd o sicrhau eich bod yn ymarfer corff yn rheolaidd, ac yn neilltuo’r amser sydd ei angen i gyrraedd eich nod, yw dilyn rhaglen ymarfer corff. Mae nifer o raglenni hyfforddiant ar gael gan gynnwys ar-lein, ond efallai nad yw’r rhain yn berthnasol i’ch lefelau a’ch nodau ffitrwydd chi.
Pan fyddwch chi’n paratoi ar gyfer ras, ac yn gosod nodau, sicrhewch eich bod yn dilyn egwyddorion SMART. Sef:
Penodol (Specific) – nodwch yn union yr hyn rydych am ei gyflawni o fewn y cyfnodau amser, peidiwch â bod yn amwys. Er enghraifft, cyrraedd 3 milltir dan 26 munud o fewn 6 wythnos.
Mesuradwy (Measurable) – Sicrhewch fod gennych y dechnoleg neu’r gallu i fesur eich rhedeg a’ch canlyniadau. Bydd angen i chi fesur eich canlyniadau unai’n wythnosol, neu bob tro y byddwch yn rhedeg i weld sut rydych yn datblygu dros amser, ac a ydych ar darged i gyrraedd eich nod.
Cyraeddadwy (Achievable) – Os yw’ch nod yn rhy hawdd yna ni fyddwch yn cael eich cymell, ond ar yr un pryd, os mae’n rhy anodd, byddwch yn diflasu; ystyriwch eich lefelau ffitrwydd, gyda’r hyn y gallwch ei wneud bob wythnos, i ddarganfod yr hyn y gallwch ei gyflawni o fewn y cyfnod amser.
Realistig (Realistic) – meddyliwch am ba mor brysur yw eich ffordd o fyw, beth yw eich trefn ddyddiol arferol, a meddyliwch am faint y gallwch ei ymroi i ymarfer ar gyfer y ras 10k yn realistig, os yw’n golygu rhedeg 3 gwaith yr wythnos, 2, neu un y dydd.
Amserol (Timely) – Meddyliwch am ba mor bell i ffwrdd mae’r ras 10k. Tua 15 wythnos. Gosodwch nodau bach ac un nod mawr o fewn y cyfnod amser hwn er mwyn sicrhau bod eich rhaglen hyfforddiant yn eich symud o a i b. Ond sicrhewch eich bod yn ystyried yr holl ffactorau eraill uchod.
Os ydych yn chwilio am raglen hyfforddiant, pam na wnewch chi edrych ar ein:
Rhowch wybod i ni sut mae eich hyfforddi’n mynd gan fod gennym ddigon o redwyr brwd yn y swyddfa!
———————————
Oddi wrth eich rhedwr cymdogaeth cyfeillgar