Yn ôl yn y byd go iawn ar ôl gwyliau gwych – seibiant am wythnos yn yr heulwen gynnes – hyfryd! Wedi cael seibiant o bythefnos o redeg ac ymarfer corff i fwynhau’r tywydd gwych gartref (lwcus iawn i ddychwelyd i’r heulwen) ond roedd yn rhaid i mi baratoi ar gyfer y Ras am Fywyd ar 21 Gorffennaf. Mae problemau’n dod yn sgîl y gwres. Dadhydradiad yw’r broblem fwyaf ac mae’n anoddach cadw cyflymder. Felly ar ôl taith redeg anodd gyntaf, llwyddais i wneud 6k cyflym yr wythnos ddiwethaf cyn y Ras am Fywyd ddydd Sul gydag Ymlusgwyr Sgeti (enw’n tîm!)
Am fore gwych! Roedd y bobl, yr awyrgylch a’r llwybr yn wych. Roeddwn yn betrusgar ar y cychwyn gyda’r holl bobl ond llwyddais i ddod o hyd i le i redeg a dechreuais ymlacio wrth barhau â’r ras. Mae’n sicr yn gwneud gwahaniaeth pan fo rhedwyr eraill a phobl yn eich annog i redeg at achos da. Roeddwn yn hapus gyda’m hamser o 27 munud er fy mod yn gobeithio am 25 munud (dim gobaith) ac yna sylweddolais yn fuan nad ydw i’n gallu rhedeg yn gynt.J Yn wir, mae fy esgidiau rhedeg hudolus yn gweithio! Roeddwn yn flinedig iawn ar ôl y ras ac efallai nad oeddwn wedi yfed digon o ddŵr cyn cychwyn – dysgu gwers! Fy mwriad bellach yw cynyddu fy mhellter dros yr 8 wythnos nesaf (dim ond 8 wythnos i fynd bobl bach) ac mae’r dechrau yn dal i’m poeni – sut byddaf yn gorffen? Fodd bynnag, rwy’n meddwl y byddaf yn anelu at 8k nesaf. Gobeithio bod pawb arall yn datblygu’n dda.J