Dros yr ychydig wythnosau nesaf i ddathlu ein pen-blwydd yn 40 oed, bydd Nigel Jones, sydd wedi bod yn Gyfarwyddwr Rasys 10k Cyngor Abertawe ers 1986, yn archwilio’i archif 10k helaeth ac yn siarad â rhai o’r bobl allweddol sydd wedi bod yn rhan o’r ras dros y blynyddoedd.
Mae ein hail erthygl gan David Flynn, cyfarwyddwr y ras 10k Bae Abertawe wreiddiol ym 1981…
Yn dilyn llwyddiant mawr y Marathon Llundain cychwynnol yng ngwanwyn 1981, cynigodd Cyfarwyddwr Datblygu Economaidd Cyngor Abertawe ar y pryd, Roger Warren-Evans, y dylai cyngor y ddinas gynnal marathon i dorf o gyfranogwyr i helpu i hyrwyddo’r ddinas.
Rhan o’m swydd fel Cynorthwy-ydd Chwaraeon ar y pryd, oedd trefnu Pencampwriaethau Dinesig y Cyngor gan gynnwys ras hwyl Calan Mai flynyddol, y rhoddais fywyd newydd iddi trwy ei hyrwyddo’n eang fel ras hwyl yng ngwir ystyr y gair. A minnau’n rhedwr cystadleuol, fy nghyfrifoldeb i a’m rheolwr llinell, J Andrew Reid, oedd ystyried ymarferoldeb cynnal digwyddiad o’r fath yn Abertawe.
Daeth yn amlwg yn fuan nad oedd llwybr addas o fewn ffiniau’r ddinas, felly dechreuon ni drafodaethau gyda Chyngor Castell-nedd er mwyn cynnal digwyddiad ar y cyd gyda llwybr arfaethedig gan ddefnyddio Mumbles Road/Promenâd, A4067 a’r A483 yn Abertawe ac yna ymlaen ar hyd yr A483 (Jersey a’r A48 yng Nghastell-nedd a Phort Talbot.
Wrth i ymarferoldeb y digwyddiad gael ei drafod mewn nifer o gyfarfodydd, cynhaliwyd hanner marathon “prawf” yng Nghastell-nedd o gaeau chwarae Cwrt Herbert i fyny ac o gwmpas cwrs heriol iawn hyd at y Creunant ac yn ôl i Gastell-nedd trwy rai ffyrdd cefn.
Ni ddefnyddiwyd y cwrs hwn byth eto ond roedd yn rhagflaenydd i hanner marathon Castell-nedd llwyddiannus iawn a ddechreuodd yn Llandarcy (Gellir gweld fideo o ddigwyddiad 1986 ar YouTube).
Yma mae’r stori’n datblygu a chafwyd y syniad o ras 10k Bae Abertawe.
Roedd grŵp o Harriers Abertawe a oedd yn fy nghynnwys i, Steve “Jock” Seaman a Gerry Batty a John Collins, sydd bellach wedi marw, yn cael peint ar ôl noson hyfforddi yn y clwb a chododd pwnc y marathon a theimlwyd nad oedd isadeiledd addas ar gyfer trefnu marathon yn Abertawe i’r raddfa yr oedd y cyngor yn ei ddymuno ac wedyn trafodwyd pellterau eraill.
Roedd John Collins wedi bod yn un o aelodau sefydlu Cynghrair Traws Gwlad hynod lwyddiannus Gwent (a ailenwyd yn Gynghrair Traws Gwlad Gwent JH Collins yn ddiweddar) ac roedd Gerry Batty yn un o sylfaenwyr Cynghrair Traws Gwlad boblogaidd Gorllewin Morgannwg, felly roedd gan y ddau brofiad gwych ac mae’r ddwy gynghrair yn parhau i fod yn llwyddiannus hyd heddiw. Rwy’n credu bod Gerry, a oedd yn gweithio yn y Gofrestrfa Tir, ac a oedd bob amser yn edrych ar fapiau ar gyfer rasys hyfforddi amrywiol, wedi awgrymu ras allan yn ôl ac ymlaen o gae criced a rygbi San Helen i’r Mwmbwls – llwybr hyfforddi a ddefnyddir yn rheolaidd hyd heddiw.
Dywedais wrth y cyngor am hyn a oedd yn cytuno’n llwyr â’r syniad, a gofynnwyd i mi ei threfnu.
Dwi ddim am fynd i fanylion y cynllunio, ond mae’n werth nodi nad oedd Mumbles Road erioed wedi bod ar gau i draffig ar gyfer digwyddiad o’r fath o’r blaen, ond ar ôl sawl cyfarfod gyda’r Swyddog Diogelwch Ffyrdd, Elwyn Davies, tad Stuart Davies, Capten Rygbi Abertawe a Chapten Rygbi Cymru’r dyfodol, rhoddodd Adran Priffyrdd Gorllewin Morgannwg gymeradwyaeth i gau’r ffyrdd a dechreuodd y gwaith ar gynllunio’r ras 10k Bae Abertawe gyntaf o ddifri.
Roedd y llwybr yn syml, allan i’r Mwmbwls ar y ffordd ac yn ôl ar hyd y Promenâd, ond yn wahanol i heddiw doedd dim pont droed yn Lido Blackpill felly aeth y llwybr o gwmpas y llyn cychod ac i’r palmant i ailymuno â’r cwrs.
O’r dechrau, y cynllun oedd cynnal ras a ras hwyl a fyddai’n dal prawf amser trwy sicrhau bod y ras o’r ansawdd uchaf fel Marathon Llundain a bod y cwrs yn addas i bawb. Dyma’r adeg y cynhaliwyd rasys hwyl ledled y wlad ac yn aml roedd eu poblogrwydd cychwynnol yn diflannu ar ôl ychydig flynyddoedd.
I wneud hyn, aethom ati i sicrhau noddwyr lleol, a’r cyntaf oedd y South Wales Evening Post ac yna Allux Windows ynghyd â chyllideb hael gan y cyngor ac roedd y cynnig hwn yn caniatáu i ni gynnig gwobr ariannol hael a thalu costau teithio a llety ar gyfer athletwyr profiadol gwahoddedig fel a wnaed mewn rasys mawr eraill.
Gweithiodd y strategaeth hon a denwyd rhedwyr o’r safon uchaf i’r ras o bob rhan o’r DU ac mae hyn yn parhau hyd heddiw.
Er mwyn hybu apêl y ras o deithio i Abertawe ymhellach, cynhaliwyd ras 5k wâdd nos Wener cyn y prif ddigwyddiad yn ail flwyddyn y digwyddiad o gwmpas hen Ganolfan Siopa Dewi Sant. Roedd hyn yn fyrhoedlog oherwydd tranc y ganolfan.
Roeddwn i’n Gyfarwyddwr y Ras am 5 mlynedd gyntaf y digwyddiad cyn trosglwyddo’r awenau i Nigel Jones, sy’n parhau i fod yn Gyfarwyddwr y Ras hyd heddiw.
gan David (Dai / Dave) Flynn