Anfonir miloedd o becynnau ras i’r rheiny sy’n rhedeg 10k Bae Abertawe Admiral yn hwyrach yr wythnos hon.
Mae’r pecynnau ras yn cynnwys arweiniad ar gyfer diwrnod y ras, rhifau ar gyfer y ras gyda sglodion electronig ar y cefn a manylion am sut i gasglu crys-t 2017.
Cyngor Abertawe sy’n gyfrifol am 10k Bae Abertawe Admiral a gynhelir ddydd Sul 24 Medi eleni.
Yn ogystal â’r 10k, bydd rasys iau 1k, 3k a 5k ynghyd â ras mewn cadair olwyn 10k.
Disgwylir y bydd oddeutu 4,500 o bobl yn cymryd rhan eleni ac mae’r dyddiad cau, 31 Awst, yn prysur nesáu.
Meddai’r Cyng. Robert Francis-Davies, Aelod Cabinet Cyngor Abertawe dros Ddiwylliant, Twristiaeth a Phrosiectau Mawr, “Mae 10k Bae Abertawe, a noddir gan Admiral am yr unfed flwyddyn ar ddeg yn olynol, yn ddathliad o ddiwylliant chwaraeon a rhedeg Abertawe a gaiff ei rannu â gweddill y DU a’r tu hwnt os ydym yn ennill teitl Dinas Diwylliant y DU 2021.
“Mae dosbarthu’r miloedd o becynnau ras yn dangos bod digwyddiad 2017 yn nesáu, ond mae amser i gofrestru o hyd. Dyma pam y byddwn yn annog unrhyw un sydd am gymryd rhan i gyflwyno ei ffurflen erbyn 31 Awst i osgoi cael siomi.
“Mae 10k Bae Abertawe Admiral, gyda bae byd-enwog Abertawe yn y cefndir, yn ddigwyddiad gwych i athletwyr elitaidd, rhedwyr profiadol a phobl sydd am godi arian ar gyfer elusen neu gyflawni heriau ffitrwydd personol
“Gyda thorf enfawr yn sefyll ar ochr y llwybr unwaith eto, mae gan y digwyddiad gymuned wych sy’n helpu i ysbrydoli pawb sy’n cymryd rhan. Yn gynharach eleni, enwyd y digwyddiad yn ail ras 10k orau’r DU yng Ngwobrau Rhedeg 2017, ac enillodd y rasys iau deitl y digwyddiad gorau i blant yn y DU. Mae hyn o ganlyniad i drefnu ac ansawdd 10k Bae Abertawe Admiral.”
Cynhelir ras fasgotiaid ar y diwrnod hefyd, felly croesewir pobl sydd am gofrestru fel rhan o grwpiau, sefydliadau a chwmnïau mewn ymdrech i ennill y £100 sydd ar gael i’r masgot buddugol.