Woohoo! Sul y Pasg (gwallgofrwydd llwyr ond roedd yn rhaid i mi losgi calorïau’r wyau Pasg rhywsut) 9.30am, 1 gradd uwchlaw’r rhewbwynt a’r gwynt yn aeafol. Dylai’r tywydd yma fod ym mis Mawrth! Ond roedd yn ddiwrnod hyfryd a dechreuais redeg ar y llwybr 10k. Gyda menig y tro hwn – rhai streipïog 2-3 oed – diolch blant!
Siaradodd y person Americanaidd ar yr app Nike yn fwy y tro hwn, gan ddweud milltir, 2 filltir a 2 filltir a hanner a 3 milltir. Roeddwn wedi synnu ar ôl milltir fy mod wedi rhedeg milltir (llawenydd) ac roedd hi’n anodd iawn peidio â mwynhau rhedeg ar lan y môr (oni bai am y don fawr ddaeth dros y wal. Yn ffodus, nid oedd unrhyw un wedi fy ngweld!)
Y canlyniad oedd 38 munud a 5k / 3.67 milltir – Hwre! Dim ond 3 milltir i fynd cyn i mi gyrraedd 10k/6milltir ac yna bydd yn rhaid gweithio ar yr amser. Rhaid i mi redeg 5 milltir y tro nesaf i weld a fyddaf yn llwyddo. Es i adref yn hapus i fwyta fy mhwysau mewn siocled. 🙂