Yng Ngwobrau Rhedeg 2017 ar gyfer y DU gyfan nos Iau (20 Ebrill), enillodd 10k Bae Abertawe Admiral y wobr arian am y 10k orau yn y wlad.
Cyflwynwyd y digwyddiad gyntaf ym 1981. Caiff ei drefnu gan Gyngor Abertawe a bydd yn dychwelyd eleni ddydd Sul, 24 Medi.
Yn y noson wobrwyo, enillodd rasys iau 10k Bae Abertawe Admiral y wobr aur ar gyfer y digwyddiad sy’n addas i blant gorau yn y DU.
Enillodd Hanner Marathon Abertawe JCP y wobr aur ar gyfer yr Hanner Marathon gorau i dros 5,000 o gystadleuwyr.
Dywedodd Frances Jenkins, Rheolwr Strategol Cyngor Abertawe ar gyfer Twristiaeth, Marchnata a Digwyddiadau, “Mae ennill y gwobrau hyn yn erbyn cystadleuaeth fawreddog o bob cwr o’r DU mewn seremoni mor fawr â hon yn adrodd cyfrolau am ansawdd 10k Bae Abertawe Admiral, felly mae’n bleser gennym ychwanegu’r rhain at ein rhestr gynyddol o wobrau.
“Ynghyd â’n noddwyr a’r gwirfoddolwyr, rydym bob amser yn ymdrechu i gynnal poblogrwydd a phroffil y digwyddiad gan ddenu athletwyr profiadol o bedwar ban byd yn rheolaidd, yn ogystal â’r miloedd o redwyr lleol.
“Mae ymdeimlad ardderchog o gymuned yn 10k Bae Abertawe Admiral sy’n golygu ei fod yn berffaith i’r rheiny sy’n codi arian i elusennau yn ogystal â rhedwyr sydd am guro eu hamseroedd gorau neu gyflawni heriau ffitrwydd ar un o’r llwybrau mwyaf trawiadol yn y DU.
“Gyda morlin mor brydferth a phenrhyn Gŵyr ar garreg ein drws, mae rhedeg yn rhan o ddiwylliant Abertawe ac rydym am ddathlu a hyrwyddo hyn wrth i ni ymdrechu i ennill statws Dinas Diwylliant y DU 2021. Rydym hefyd yn falch iawn yr enillodd Hanner Marathon JCP y wobr aur yn ei gategori.”