Rwy’n 37 oed, yn fam i ddau o blant dan 5 oed, mae gen i dŷ, morgais a chi, rwy’n gweithio rhan-amser (4 diwrnod) ac yn mynd i ddosbarth hyfforddi ysbeidiol ac ambell ddosbarth troelli. Ond eleni, mae rhai o’m ffrindiau wedi dechrau rhedeg ac felly rwy’n mynd i ymuno â hwy! Fel dechreuwr, mae’n her rhedeg 1k heb sôn am 10k ond dyna’r nod. Mae Ras 10k Bae Abertawe’n ffordd hir eek!
Rhedeg. Roedd hi’n amser dechrau. Mae’n fis Chwefror. Mae pawb rwy’n siarad â hwy’n rhedeg i gadw’n heini neu i dynhau’r corff. Mae pob un o’r uchod ar fy rhestr o bethau i’w gwneud, felly roeddwn am roi cynnig arni. Felly lawrlwythais app, des i o hyd i gap pêl-fas (fel bod fy wyneb wedi’i guddio petawn i’n cwympo) a bant â fi i redeg ar y palmant.
Cynlluniais lwybr rhedeg ac es i ar wefan y ras 10k i gael rhai argymhellion i ddechreuwyr ac nid wyf yn dechrau ymarfer corff o’r dechrau, felly rwy’n gwybod am hydradu ac ymestyn, ond…
Nid oeddwn yn rhedeg mewn gwirionedd, ond loncian (yn araf). Roeddwn wedi fy syfrdanu a) Ni fu rhaid i mi stopio a b) Roeddwn yn ei fwynhau. Roedd llais bach Americanaidd hefyd yn dweud wrtha i pan oeddwn wedi cwblhau milltir a dwy filltir (rwy’n dechrau deall yr app). Dechreuodd fy nghoesau wegian wrth gyrraedd 2 filltir ond parheais nes cyrraedd adref (2.4 milltir/4k) yn falch iawn gyda’m perfformiad.
Broliais i’m gŵr a ddywedodd wrtha i brynu topiau rhedeg newydd yn lle gwisgo’u rhai ef, ond roedd hefyd wedi cynnig geiriau o anogaeth. Arweiniodd hyn at y sgwrs am ‘Rwy’n Ystyried gwneud y Ras 10k’. Yr hyn roeddwn i’n meddwl oedd, os ydw i’n gallu rhedeg 4k ar fy nhaith redeg gyntaf, nid yw 10k allan o’m cyrraedd.