Un peth a wnaeth fy nharo wrth redeg ar y penwythnos oedd pa mor berffaith y gall pobl edrych wrth redeg. Rydw i’n hoffi edrych fy mod wedi cyd-drefnu i raddau ac mae gen i bâr da o esgidiau rhedeg, siorts a chrys-t, ond roedd y ffasiwn ar brom Abertawe yn anhygoel y penwythnos hwn.
Roedd yr esgidiau rhedeg lliwiau llachar arbenigol, oren, gwyrdd llachar a glas, y rhai hynny sydd â phris 3 ffigur arnynt, gan y rhedwyr gorau – y rhai sy’n gwneud y 10K mewn llai na 40 munud.
Mae’r gweddill ohonom yn parhau i geisio penderfynu pa esgidiau yw’r rhai gorau i ni, ond nid yr esgidiau rhedeg yn unig a oedd yn denu sylw y penwythnos hwn, roedd ffasiwn redeg yn uchel ar agendâu pawb, wel dyna sut roedd hi’n ymddangos.
Roedd y rhedwyr, gyda photel, dyfais chware cerddoriaeth a phecyn gel i wella lefelau siwgr yn rhedeg i fyny ac i lawr gyda’u crysau-t haeddiannol o rasys blaenorol o amgylch y DU.
Tra bod gweddill y clwb rhedeg yn hael iawn gyda’u ‘fashion faux pas’ y penwythnos hwn. Wrth i’r tymheredd godi, newidiodd y ffasiwn redeg.
Gwnaeth siorts ¾ o hyd a sanau gwyn at y pigwrn, esgidiau rhedeg du megis rhai ysgol a chrys-t Ibiza o’r stryd fawr ddal fy llygad. Nid oedd yn helpu nad oedd y dull rhedeg gorau ganddo, ond yng ngeiriau prif frand chwaraeon y byd – ‘he was just doing it‘.
Yr un a wnaeth fy nharo fel y wisg fwyaf anarferol oedd y crys gwddf hir gwyrdd mintys – ie, nid camgymeriad yw hynny, lliw gwyrdd mintys oedd y crys gyda gwddf hir a llewys hir. Ai rhedwr hyderus oedd ef, neu a oedd yn benderfynol o osgoi’r haul?
Yna aeth model y Cylchgrawn Rhedeg heibio i mi – siorts a fest a oedd yn cyd-fynd a 2 fraich wedi’u gorchuddio â llewys llawn o’r hyn a oedd yn amlwg yn datŵs i’w helpu i fynd yn gynt – roedd yn rhedeg fel petai’n cael ei gefnogi gan un o’r escaladuron maes awyr hynny sy’n gwneud i chi deimlo fel petaech chi’n cerdded yn gynt nag ydych chi.
Yn olaf, roedd y bobl yn y canol, wedi’u dal rhwng brandiau chwaraeon a ffasiwn y stryd fawr, esgidiau rhedeg newydd sbon neu rai hen a wisgwyd llawer ac yna roedd y siorts – pob clod i’r rheini a redodd mewn siorts denim neu gargo – rwy’n gobeithio y bydd y rhwbio sy’n effeithio ar eich gallu i gerdded heddiw yn fyrhoedlog, fel eich siorts, a fydd yn cael eu newid am rywbeth mwy addas y tro nesaf.
Nid oedd llwyfan sioe ffasiwn Paris yn yr un cwch â rhedwyr Bae Abertawe y penwythnos hwn.