Ar ran tîm 10k Bae Abertawe Admiral Cyngor Abertawe, hoffem fynegi ein tristwch mawr ar ôl clywed y newyddion am farwolaeth Ei Mawrhydi’r Frenhines. Ynghyd â llawer o gymunedau eraill yng Nghymru, y DU ac ar draws y byd, estynnwn ein cydymdeimlad dwysaf i’r Teulu Brenhinol ar yr adeg hon.
Yn dilyn y cyhoeddiad y bydd angladd Ei Mawrhydi’r Frenhines yn cael ei chynnal ddydd Llun 19 Medi, rydym bellach yn gallu cadarnhau y bydd ras 10k Bae Abertawe Admiral eleni a’r rasys iau 1k a 3k yn mynd yn eu blaenau, yn ôl y bwriad, ddydd Sul yma, 18 Medi. Hoffwn ddiolch i chi am eich amynedd.
Rydym yn gwerthfawrogi ac yn deall y bydd llawer o redwyr o bosib yn dymuno talu teyrnged hefyd y penwythnos hwn a chynhelir distawrwydd un funud cyn dechrau’r ras 10k.
Bydd pawb sydd wedi cofrestru ar gyfer y ras yn derbyn e-bost yn ddiweddarach yr wythnos hon yn cadarnhau gwybodaeth am y ras cyn y penwythnos, felly gwnewch yn siŵr eich bod yn gwirio’ch mewnflychau.