Daeth miloedd o redwyr a gwylwyr i strydoedd Abertawe ddydd Sul ar gyfer ras 10k Bae Abertawe Admiral.
Cymerodd tua 5,000 o redwyr ran yn un o’r digwyddiadau gorau o’i fath yn y DU, gan ddenu cefnogwyr a chystadleuwyr o bob cwr o’r DU.
Derbyniodd rhedwyr eleni grysau T gyda’r slogan ysgogiadol canlynol arnynt, “All you need is the courage to believe in yourself and put one foot in front of the other.”
Dyfyniad yw hwn gan seren rhedeg pellter hir, Kathrine Switzer, sy’n enwog am ei rhedeg a’i gweithrediaeth gymdeithasol dros chwaraeon i fenywod.
Ynghyd â’r ras 10k, cynhelir hefyd rasys iau 1k, 3k a 5k, ras 10k mewn cadair olwyn a sbrint y masgotiaid dros 100m, a enillwyd eleni gan Matt Clowes, a enillodd £100 ar gyfer ei elusen ddynodedig.
Meddai’r Cyng. Robert Francis-Davies, Aelod Cabinet Cyngor Abertawe dros Arloesedd, Adfywio a Thwristiaeth, “Roedd yn fraint i’n dinas groesawu cynifer o redwyr brwd y penwythnos hwn.
“Mae ras 10k Bae Abertawe Admiral yn cynnwys cwrs sy’n addas i redwyr ynghyd â rhai o’r golygfeydd gorau yn y DU – mae’n ddathliad go iawn o ddiwylliant chwaraeon Abertawe.
“Mae’n ddigwyddiad gwych ar gyfer athletwyr elît, rhedwyr profiadol a phobl sy’n rhedeg am y tro cyntaf, neu unrhyw un sydd am godi arian ar gyfer elusen neu gyflawni heriau ffitrwydd personol.
“Rydym yn falch o’r dorf enfawr a ddaeth i wylio ac a ychwanegodd, unwaith eto, at yr ymdeimlad cymunedol a’r awyrgylch teuluol gwych sy’n helpu i ysbrydoli pawb sy’n cymryd rhan.”
Mae’r digwyddiad wedi ennill y wobr arian am y ras 10k orau yn y DU am y ddwy flynedd ddiwethaf yng Ngwobrau Rhedeg y DU. Pleidleisiwyd y rasys iau hefyd yn Ddigwyddiad Gorau i Blant y DU yng ngwobrau’r llynedd.
Mae holl ganlyniadau’r rasys ar gael i’w gweld ar-lein yn www.swanseabay10k.com/cy/canlyniadau
Bydd ffotograffau swyddogol o’r rasys ar gael yn ddiweddarach yr wythnos hon ar photo-fit.net, gan ffotograffydd swyddogol ras 10K Bae Abertawe Admiral.