Rwyf wedi rhedeg sawl gwaith ers i mi ysgrifennu y tro diwethaf felly dyma beth ydw i wedi’i wneud ers hynny (mae’n fis Ebrill): Rwyf wedi newid fy app i km yn lle milltiroedd sy’n ei wneud yn haws i mi gyfrifo’r pellter. Mae gennyf ffrind rhedeg bellach sy’n wych ac rydym wedi bod ar ddwy daith redeg wych – 6k y ddau dro sydd tua 4.6 milltir. Nid y nod o 5 milltir ond bron â chyrraedd y nod. Ac es i ar daith redeg 4k o amgylch y stryd i geisio cael pŵer yn fy nghoesau – nid yw wedi digwydd eto fodd bynnag. Rwyf hefyd wedi cael cinio gwych gyda’r menywod ac wedi yfed llawer o swigod pinc – neis ac wedi cyrraedd 7k – hwre!
Nid oeddwn wedi sylweddoli mor bell ydoedd nes i mi gyrraedd y Mwmbwls o Sgeti – o diar! Roedd 3k yn iawn ond roedd yr hanner km ychwanegol yn teimlo fel milltiroedd! Roedd yn iawn nes cyrraedd tua 5 km a hanner ac roedd fy nghoesau (a’m bysedd traed, od) wedi dechrau brifo am y tro cyntaf ers i mi ddechrau ar yr ymgais 10k ym mis Chwefror. Mae’n hen bryd i mi gael esgidiau hyfforddi newydd (er fy mod wedi bod yn dweud hyn ers sbel hir nawr!) Roedd y 6k yn iawn y ddau dro felly bydd yn rhaid i mi redeg am 7k ychydig weithiau cyn rhedeg 8k. Rwy’n falch iawn y gallaf redeg mor bell 0 hwre! Rwyf hefyd yn teimlo llawer yn fwy heini ac rwy’n bwyta’n fwy iachus (diflas iawn) felly rwy’n teimlo’n eithaf hunanfodlon ar hyn o bryd! Mae’r tywydd yn newid hefyd wrth i’r gwanwyn nesáu (ond yn methu’r rhan fwyaf o’r amser!) Ond pam na allaf fynd yn gynt? Atebion ar gerdyn post…