Es i ar fy nhaith redeg nesaf neithiwr ar ôl seibiant o bythefnos (roedd penwythnos i ffwrdd a haint ar y fron yn llythrennol wedi fy atal rhag rhedeg.) Bellach mae’n fis Mawrth ac nid wyf yn rhedeg gyda’r nos fel arfer ond rhaid i chi ddychwelyd i’ch esgidiau ymarfer cyn gynted â phosib ar ôl cyfnod o beidio â rhedeg (o leiaf dyna beth wedais i wrtha i fy hun) ac roedd hi’n noson hyfryd – yn gynnes ac yn heulog, sy’n dywydd arferol ym mis Mawrth.
Roedd hi’n iawn, roedd pobl yn gallu fy ngweld yn fy nhop rhedeg llewychol (roeddwn ar y palmant ond…byddwch ddisglair, byddwch ddiogel) ond hanner ffordd trwy fy nhaith redeg, bu farw’r batri ar fy ffôn ac roedd yn rhaid i mi wrando ar fy anadlu yn hytrach na’r app gyda’r llais Americanaidd yn fy annog ac yn dweud wrthyf pa mor bell roeddwn wedi rhedeg felly nid oedd hynny’n llawer o hwyl. Roeddwn wedi cwblhau fy nhaith redeg mewn hanner awr y tro hwn, felly ychydig yn gynt. 🙂
Es i ar yr un llwybr ag o’r blaen, yn bennaf i weld a allaf redeg ychydig yn gynt ond nid wyf yn siŵr a oeddwn wedi gwneud hynny. Nid oeddwn wedi mwynhau cymaint y tro hwn a bellach mae gennyf ewin bys troed tost (braidd yn rhyfedd, efallai ei fod yn amser cael esgidiau newydd) ond rwy’n falch fy mod wedi gallu rhedeg heb stopio eto. Byddaf yn mynd ar fy nhaith redeg nesaf ar ddiwedd yr wythnos ac rwy’n meddwl am redeg ar lwybr newydd i weld a ydw i’n gwella.