Es i’n rhedeg yn gynharach yr wythnos hon a rhedais i i’r Mwmbwls ac yn ôl. Hanner ffordd trwodd, aeth fy nhraed yn ddideimlad ac roedden nhw’n teimlo’n fferllyd. Oherwydd hyn, dwi’n siŵr gallwch chi ddychmygu, roedd rhedeg yn eithaf anodd. Wrth redeg yn y gorffennol mae f’ysgwydd wedi brifo, ond dwi’n gwybod bod hyn o anaf a ges i ychydig o flynyddoedd yn ôl.
Allwch chi esbonio beth oedd yn digwydd gyda’m troed? Ydych chi wedi cael problemau rhyfedd wrth redeg sydd wedi effeithio ar eich perfformiad?
Ar ôl y profiad poenus hwn, dechreuais i feddwl am anafiadau cyffredin sy’n digwydd oherwydd rhedeg. Dyma’r saith uchaf gan Runners World.
- Pen-glin rhedwr
- Tendinitis gweyllen ffêr (achilles)
- Problemau llinyn y gar
- Llid gwadnol y ffasgell
- Crimogau chwyddedig
- Syndrom band Maissiat
- Ysigiad
Darllenwch eu herthygl anafiadau rhedeg lawn a chynhwysfawr iawn yma.