7k – mae’n bell yn fy marn i yn enwedig gan ei fod yn mynd â chi hyd at Glwb Rygbi Dyfnant ond rwyf wedi gwneud ychydig o deithiau. Y mis hwn (Ebrill) rwyf wedi llwyddo i fynd ar ychydig deithiau rhedeg – 6 i fod yn fanwl gywir ond yna rhedais allan o amser i ddiweddaru fy mlog. Yn ogystal â rhedeg ar hyd y llwybr 10k (rhan ohono) es i hyfforddi gyda’m gŵr gan anghofio ei fod yn fwy heini, yn gryfach ac yn gynt na mi. Roedd y 5k yn teimlo fel 15k oherwydd bod y bryn mor serth, ac roeddwn bron â chwympo ar fy nghefn (nid mewn gwirionedd ond roedd yn chwerthinllyd.) Nid oeddwn am gael fy nghuro felly lonciais yr holl ffordd, bron fel petawn yn cerdded yn araf ond cedwais i symud. Roedd yn ofnadwy. Mor wael fel y penderfynais ei wneud eto i weld a oedd modd i mi ei gyflawni. Mi wnes i. Rwy’n dechrau ymffrostio yn y teithiau rhedeg hyn.