Mae’r tywydd yn cynhesu a hyd yn hyn (ganol mis Mehefin), rwyf wedi cwblhau 18 taith redeg ac rwyf wedi cyrraedd 8k. Mae’n ymddangos fel pellter da ond fy amser yw 6 munud am bob km o hyd. Rwyf hefyd wedi llwyddo i lawrlwytho peth cerddoriaeth i’m ffôn felly nid yw’r caneuon app bellach yn chwarae o hyd ond mae’r llais Americanaidd dal yn fy annog. Fodd bynnag, mae’n tawelu o hyd sy’n rhwystredig a’r hyn rwy’n gallu ei glywed yw fy anadl fy hun – nid yw’n dda! Oes unrhyw un arall yn cael trafferth gydag app rhedeg Nike? Neu fi’n unig? Rwy’n diweddaru’r meddalwedd cymaint â phosib fodd bynnag. Roedd y tywydd ar gyfer yr 8k yn hyfryd ac yn gynnes ac roedd hi’n llawer haws rhedeg yn y tywydd hwn. Dwlu. 🙂
Nid wyf wedi cael amser i wneud 8k arall felly hyd yn hyn rwyf wedi gorfod bodloni ar ddwy daith 6k. Roedd fy esgidiau ymarfer newydd yn brifo fy nhraed y tro cyntaf i mi eu gwisgoL ond maent yn teimlo’n iawn nawr. Mae’r anaf i fysedd fy nhraed dal yno ac nid wyf wedi cael cyfle i wella hynny eto chwaith. Rwy’n benderfynol o wneud 10k yn fuan ac mae’n debygol y bydd hyn yn digwydd y penwythnos nesaf. Rwyf wedi bod yn siarad am y peth ac felly bydd yn rhaid i mi ei wneud nawr…