Anfonir miloedd o becynnau ras i’r rheiny sy’n rhedeg yn ras 10k Bae Abertawe Admiral o’r wythnos nesaf.
Mae’r pecynnau ras yn cynnwys arweiniad ar gyfer diwrnod y ras, rhif personol ar gyfer y ras gyda sglodyn cofnodi amser electronig ar y cefn a manylion am sut i gasglu crys T technegol 2018.
Eich cyfle olaf i gyflwyno cais ar gyfer y ras flynyddol, a gynhelir ddydd Sul 16 Medi, yw Friday 31 Awst.
Cyngor Abertawe sy’n cynnal y digwyddiad, ac mae’n cael ei noddi gan Admiral am y ddeuddegfed flwyddyn yn olynol. Yn ogystal â’r 10k, bydd rasys iau 1k, 3k a 5k ynghyd â ras 10k mewn cadair olwyn.
Disgwylir i oddeutu 5000 o bobl gymryd rhan unwaith eto eleni.
Meddai’r Cyng. Robert Francis-Davies, Aelod Cabinet Cyngor Abertawe dros Arloesedd, Adfywio a Thwristiaeth, “Gyda chynifer o olygfeydd hardd, nid yw’n syndod bod rhedeg yn rhan o ddiwylliant cyfoethog ein dinas.
“Yn gynharach eleni, enwyd ras 10k Bae Abertawe Admiral yn ras 10k orau Cymru yng Ngwobrau Rhedeg 2018 ac mae hefyd wedi cael ei henwebu yng Ngwobrau Rhedeg 2019.”
Meddai’r Cyng. Francis-Davies, “Mae Ras 10k Bae Abertawe Admiral, sy’n un o ddigwyddiadau mwyaf poblogaidd y flwyddyn yn Abertawe, yn ras wych i athletwyr profiadol, pobl sy’n codi arian ar gyfer elusennau a phobl sydd am guro eu hamseroedd gorau neu gyflawni nodau ffitrwydd personol.
“Gyda bae eiconig Abertawe yn y cefndir a’r ras yn cael ei rhedeg ar gwrs gwastad, mae’r digwyddiad arobryn hwn hefyd yn cynnwys rasys iau i blant, sy’n rhoi cyflwyniad perffaith i redeg ar y ffordd.
“Gyda’r dyddiad cau ar ddiwedd mis Awst, byddwn yn annog unrhyw un sydd â diddordeb yn y digwyddiad eleni i gyflwyno cais cyn gynted â phosib er mwyn osgoi cael ei siomi gan fod y ras bob amser yn llawn ac yn aml yn cyrraedd y sefyllfa honno cyn y dyddiad cau.
“Mae’r bobl sy’n cymryd rhan yn y ras yn gadarnhaol iawn am y profiad oherwydd safon trefnu a rheoli’r ras ac oherwydd y gefnogaeth maent yn ei derbyn gan y cannoedd o bobl sy’n bresennol ar hyd y llwybr.”
Cynhelir ras i fasgotiaid hefyd ar ddiwrnod ras 10k eleni, felly croesewir pobl sydd am gofrestru fel rhan o grwpiau, sefydliadau a chwmnïau mewn ymdrech i ennill y £100 sydd ar gael i’r masgot buddugol.
Ewch i www.swanseabay10k.com/cy i gofrestru neu i gael mwy o wybodaeth.
Manylion cofrestru:
- 10k: £23 i aelodau o glwb/£25 i’r rhai nad ydynt yn aelodau o glwb. Bydd pawb sy’n cymryd rhan yn derbyn crys T technegol. Bydd pawb sy’n cwblhau’r ras yn derbyn medal a bag rhoddion.
- Rasys iau: £7. Bydd pawb sy’n cymryd rhan yn derbyn crys T technegol. Bydd pawb sy’n cwblhau’r ras yn derbyn medal, tystysgrif a bag rhoddion.
- Gellir dod o hyd i’r holl fanylion a dolenni er mwyn cofrestru ar gyfer y rasys ar-lein yn swanseabay10k.com/cy
- I bleidleisio dros ras 10k Bae Abertawe Admiral yng Ngwobrau Rhedeg 2019, ewch i therunningawards.com