Wedi’i pleidleisio’n un o rasys gorau’r DU, ein nod yw bod yn hygyrch i bawb, gan gynnig amrywiaeth o rasys fel gall pawb gymryd rhan ar y dydd! Mae ein ras mewn cadair olwyn ar agor i bawb, ac mae’n hwyl ond yn heriol i’r rhai sy’n cymryd rhan.
Bydd y Ras mewn Cadair Olwyn yn cychwyn 10 munud cyn y prif ras 10k. Rydym yn annog athletwyr i gysylltu cyn y digwyddiad i drafod eu hanghenion ac yn annog athletwyr a hyfforddwyr i adolygu’r cwrs. Rhaid i athletwyr mewn cadeiriau olwyn wisgo helmedi damwain – mae hyn yn orfodol.
I gymryd rhan, ffoniwch y Tîm Digwyddiadau Arbennig ar 01792 635428 neu e-bostio 10kBaeAbertawe@abertawe.gov.uk. Gallwch gofrestru nawr ar gyfer 2025!
GWYBODAETH AM Y RAS
- Dyddiad: 14 Medi 2025
- Arwyneb: Ffordd
- Amgylchedd: Dinas
- Proffil: Fflat
- Traffig: Na
- Marcwyr Pellter: Bob 1km
- Gorsafoedd Dŵr: Oes
- Cyfleusterau’r Lleoliad: Toiledau, parcio, arlwyo, cymorth cyntaf
- Terfyn y Ras: 4000
- Gwobrau: Oes