Rydym yn chwilio am wirfoddolwyr ysbrydolgar a brwdfrydig i helpu gyda Ras 10k Bae Abertawe Admiral eleni. Mae rôl gwirfoddolwyr yn hanfodol er mwyn sicrhau diogelwch rhedwyr ac awyrgylch bwysig y ras wych hon. Os oes gennych rai oriau sbâr, neu os nad ydych yn gallu rhedeg ond dal am gymryd rhan, dyma’r cyfle perffaith.
Pam Gwirfoddoli?
10k Bae Abertawe Admiral yw un o’r rasys 10k gorau yn y DU gyda golygfeydd hyfryd o Fae Abertawe ar hyd y ffordd. Mae gan y digwyddiadau awyrgylch gwerth chweil ac ni fyddai’n bosib heb y gwirfoddolwyr. Mae hefyd yn ffordd wych o gael profiad digwyddiad ras ac mae gwirfoddoli’n beth da i’w roi ar eich CV!
Hefyd, byddwch yn rhan o ddiwrnod arbennig ac yn cwrdd â phobl ysbrydolus sy’n cymryd rhan flwyddyn ar ôl blwyddyn. Os nad yw hynny’n ddigon, byddwch hefyd yn derbyn crys-T ynghyd â bag rhoddion a lluniaeth ar y diwrnod.
Beth gallaf ei wneud?
- Gwirfoddolwr Marsial y Cwrs
- Gwirfoddolwr Ymholiadau a Gweinyddol
- Gwirfoddolwr Lles
- Gwirfoddolwr wrth y Llinell Derfyn
Pwy sy’n gallu gwneud cais?
Gall unrhyw un wneud cais, ond mae’n rhaid i wirfoddolwyr fod yn 18+ oed.
Budd-daliadau
Bydd trefnwyr ras 10k Bae Abertawe Admiral yn rhoi lluniaeth a chrys-t dathliadol i chi yn ystod eich cyfnod ond yn anffodus ni fyddwch yn derbyn unrhyw dreuliau eraill. Cofiwch hyn pan rydych yn mynegi diddordeb neu’n gwneud cais.
Sut rydw i’n gwneud cais?
Cwblhewch y ffurflen gais, neu os ydych yn cynrychioli grŵp gwirfoddol ffoniwch 01792 635428 neu e-bostiwch special.events@swansea.gov.uk i fynegi’ch diddordeb. Nodwch pa fath o rôl yr hoffech ei gwneud.
Beth sy’n digwydd nesaf?
Os ydych yn llwyddiannus, byddwn yn rhoi’r newyddion diweddaraf i chi drwy e-bost a nodyn briffio a fydd yn egluro eich rôl ar y diwrnod. Bydd disgwyl i’r holl wirfoddolwyr ddod i gyfarfod briffio ar 18 Medi. Os oes gennych unrhyw gwestiynau cyn hyn, cysylltwch â ni.
Hoffem DDIOLCH YN FAWR i’r grwpiau canlynol sydd wedi’n cefnogi am nifer o flynyddoedd a’r gwirfoddolwyr sydd wedi’n helpu i wneud y ras hon mor arbennig:
- 2nd Swansea Valley Scouts
- Sketty Scouts
- Paul Popham Running Club
- Dyfed and Glamorgan Army Cadet Force
- Swansea Sea Cadets
- Swansea Lions Club
- 3M’s Running Club
- Mellin Theatre Arts
- Raynet
- St Johns
- Gower Riders