Roedd rhedwyr a gwylwyr ar strydoedd Abertawe heddiw (ddydd Sul) ar gyfer ras 10k Bae Abertawe Admiral – oedd â thema liwgar yr 1980au.
Roedd tua 4,000 o redwyr wedi cymryd rhan yn un o’r digwyddiadau gorau o’i fath yn y DU. Dyma’r ras 10k orau yng Nghymru yn ôl Gwobrau Rhedeg 2019.
Yn ogystal â phrif ddigwyddiad y 10k, hefyd cynhaliwyd rasys iau 1k a 3k i blant a ras cadair olwyn 10k.
Cynhaliwyd y 40fed ras flynyddol rhwng San Helen a’r Mwmbwls, a chan mai’r thema oedd yr 80au, cafwyd gwisgoedd ffansi a hwyl o’r cyfnod hwnnw ar y dydd.
Roedd rhai agweddau ar y digwyddiad yn wahanol i’r blynyddoedd blaenorol oherwydd y mesurau yr oedd y trefnwyr, Cyngor Abertawe, wedi’u rhoi ar waith o ystyried y ffaith bod COVID-19 yn dal i fod gyda ni ac i helpu i leihau ymlediad y feirws ymhlith pawb a oedd yn rhan o’r digwyddiad.
Roedd y newidiadau’n cynnwys nifer is o gyfranogwyr, llai o ardaloedd lle byddai rhedwyr yn closio at ei gilydd a mesurau fel dechrau’r ras ar adegau gwahanol.
Meddai Robert Francis-Davies, Aelod y Cabinet dros Fuddsoddi, Adfywio a Thwristiaeth, “Mae 10k Bae Abertawe Admiral yn rhan allweddol o galendr digwyddiadau Abertawe felly roedd yn dda ei gweld yn ôl.
“Roedd miloedd o bobl wedi mwynhau’r awyrgylch ac wedi cael ychydig oriau mas rhagorol. Rydym yn gwneud popeth y gallwn i’w cadw’n ddiogel a diolchwn i bawb a gyfrannodd mewn unrhyw ffordd at wneud y digwyddiad yn llwyddiant. A gallwn ddweud yn awr ein bod yn bwriadu’i chynnal eto’r flwyddyn nesaf ar 18 Medi, felly dylai pob rhedwr brwd nodi’r dyddiad yn ei ddyddiadur.”
Hwn oedd y 15fed tro i Admiral noddi’r digwyddiad.
Bydd holl ganlyniadau’r rasys ar gael i’w gweld ar-lein.
Bydd ffotograffau swyddogol o’r rasys ar gael yr wythnos hon ganphoto-fit.net, ffotograffydd swyddogol ras 10K Bae Abertawe Admiral.
Mae Cyngor Abertawe bellach wedi cadarnhau y cynhelir 10k Bae Abertawe Admiral 2022 ddydd Sul 18 Medi.