Oherwydd y sefyllfa barhaus, mae’n flin gennym gyhoeddi bod ras 10k Bae Abertawe Admiral 2020, a fyddai hefyd wedi dathlu 40 mlynedd ers ei sefydlu, wedi’i gohirio tan 19 Medi 2021.
Mae Tîm Digwyddiadau’r Cyngor wedi bod yn monitro sefyllfa’r pandemig ynghyd â’r arweiniad a gyhoeddwyd gan Lywodraeth Cymru ac Iechyd Cyhoeddus Cymru yn agos.
Er bod y cyfyngiadau’n cael eu llacio’n raddol, mae bellach yn glir nad oes unrhyw sôn y bydd digwyddiadau prysur o’r natur hon yn cael eu caniatáu mewn pryd i allu cynnal y digwyddiad hwn yn ddiogel ym mis Medi.
Byddai cynnal y digwyddiad eleni wedi peryglu lledaeniad y feirws a rhoi pwysau diangen ar y gwasanaethau brys, y gwirfoddolwyr a’r rheini sy’n rhoi cefnogaeth feddygol. Mae diogelwch ein cyfranogwyr, ein staff, ein gwirfoddolwyr, ein partneriaid, ein gwylwyr a’n gwasanaethau brys yn flaenoriaeth.
Beth ydw i’n ei wneud nawr?
Ar gyfer digwyddiad y flwyddyn nesaf, mae trosglwyddiad awtomatig am ddim i ras 2021 sy’n dathlu 40 mlynedd. Does dim rhaid i redwyr sydd wedi cofrestru ar gyfer 2020 wneud unrhyw beth – caiff eu manylion eu trosglwyddo a byddant yn cael yr wybodaeth ddiweddaraf am ddigwyddiad dathliadol 2021 wrth i’r cynlluniau ddatblygu.
Gall y rheini na allant fod yn bresennol ar y dyddiad newydd drosglwyddo eu tocyn mynediad i redwr arall am ddim trwy ddefnyddio’r Member’s Hub ar RealBuzz hyd at ddydd Sul, 20 Medi eleni. Mae nifer o opsiynau ar gael i chi – Gwiriwch ein cwestiynau cyffredin ar-lein ynghylch cymryd rhan yn y ras ac i gael rhagor o wybodaeth.
Cwestiynau Cyffredin
Meddai’r Cyng. Robert Francis-Davies, Aelod Cabinet Cyngor Abertawe dros Fuddsoddi, Adfywio a Thwristiaeth, “Rydym yn ymwybodol y bydd rhedwyr a chefnogwyr yn siomedig – rydyn ni’n siomedig hefyd, ond rydym yn gwybod y bydd pawb hefyd yn deall mai dyma’r penderfyniad cywir gan ystyried y sefyllfa bresennol.
“Y peth pwysicaf i’w wneud yn awr yw gwneud popeth y gallwn i sicrhau bod cyfranogwyr a’r cyhoedd mor ddiogel â phosib, a lleihau’r pwysau ar ein gwasanaethau brys.
Y cyngor sy’n gyfrifol am y ras 10k a fydd yn cael ei noddi’r flwyddyn nesaf gan Admiral am y 15fed flynedd yn olynol. Yn ogystal â’r ras 10k, bydd rasys iau 1k a 3k ynghyd â ras 10k mewn cadair olwyn.
Meddai Ceri Assiratti, Pennaeth y Gwasanaethau Pobl yn Admiral, “Mae iechyd a lles ein staff yn bwysig i ni, felly rydym yn cefnogi penderfyniad y cyngor. Rydym yn falch ein bod wedi noddi Ras 10k Bae Abertawe Admiral ers 2006, mae ein staff yn mwynhau cymryd rhan bob blwyddyn ac maent yn edrych ymlaen at gymryd rhan yn 2021.”
Fel cyrchfan twristiaeth cyfrifol, mae Abertawe’n awyddus i gefnogi diogelwch preswylwyr y ddinas a’r twristiaid sy’n ymweld â’r ardal.
Dilynwch y dolenni swyddogol isod i gael yr arweiniad a’r wybodaeth ddiweddaraf mewn perthynas â COVID-19. Byddwn yn diweddaru’r dudalen hon yn rheolaidd gyda’r cyngor a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Lywodraeth y DU.
Os oes gennych unrhyw bryderon ynghylch eich iechyd, neu os oes gennych unrhyw gwestiynau am y Coronafeirws neu ei symptomau, cymerwch gipolwg ar wefan GIG i weld y cyngor a’r arweiniad diweddaraf.
Gellir dod o hyd i’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Abertawe yma.
Gelir dod o hyd i ddiweddariadau rheolaidd gan Lywodraeth y DU yma.