Bydd yr RNLI ac Ambiwlans Awyr Cymru ymysg yr elusennau a fydd yn cael sylw yn ystod ras masgotiaid flynyddol 10k Bae Abertawe Admiral y mis hwn.
Bydd Pride Abertawe, Y Gweilch yn y Gymuned, Cash for Kids, elusennau’r Arglwydd Faer a Swans Aid yno hefyd.
A nawr, gydag oddeutu pythefnos i fynd tan y ras fawr, mae’r masgotiaid a fydd yn cymryd rhan yn hyfforddi ar gyfer y foment fawr ddydd Sul, 22 Medi.
Bydd y ras 100m yn dechrau am 11.10am y tu allan i faes San Helen – sef 10 munud ar ôl i’r brif ras ddechrau o’r un lleoliad.
Cyngor Abertawe sy’n trefnu ras 10k Bae Abertawe Admiral, sydd hefyd yn cynnwys rasys 1k a 3k i blant iau.
Dylai unrhyw grŵp, elusen, sefydliad neu gwmni sydd am i’w masgot gymryd rhan yn y ras 100m – a chael cyfle i ennill y £100 sydd ar gael yn wobr i’r masgot buddugol – e-bostio Lindsay Sleeman neu ei ffonio ar 01792 635428.