Efallai fod 10k Bae Abertawe Admiral newydd orffen, ond mae cofrestru eisoes wedi dechrau ar gyfer ras y flwyddyn nesaf Swansea Bay 10k. Mae Cyngor Abertawe, sy’n cynnal y digwyddiad, bellach wedi cadarnhau y cynhelir 10k Bae Abertawe Admiral 2018 ddydd Sul 16 Medi.
Cymerodd mwy na 4,500 o bobl ran yn ras 10K Bae Abertawe Admiral y mis diwethaf. Yn ogystal â’r brif ras, sef y 10k, bu rasys iau 1k, 3k a 5k yn ogystal â ras gadair olwyn 10k a sbrint 100 metr i fasgotiaid.
O ganlyniad i recordio amserau electronig, gallai cystadleuwyr ddarganfod yn gyflym ac yn hawdd a oedd eu hymdrechion yn ddigon i guro eu hamser personol gorau ar gwrs sy’n hwylus i redwyr ac sy’n cynnig rhai o’r golygfeydd godidocaf yn y wlad.
Meddai’r Cyng. Robert Francis-Davies, Aelod Cabinet Cyngor Abertawe dros Ddiwylliant, Twristiaeth a Phrosiectau Mawr, “Efallai fod meddwl am redeg 10k braidd yn arswydus i rai pobl, ond gyda chofrestru eisoes wedi dechrau ar gyfer digwyddiad 2018, mae gan bobl ddigon o amser i baratoi dros y 12 mis nesaf.
“P’un a ydych yn rhedwr newydd, yn athletwr profiadol neu’n rhedwr hamdden, mae pawb sy’n cymryd rhan yn 10k Bae Abertawe Admiral yn siarad yn gadarnhaol iawn am y profiad – o ganlyniad i’r ffordd wych y trefnir y ras, y cwrs deniadol, yr arian a godir ar gyfer elusennau neu’r teimlad o groesi’r llinell derfyn.
“Dyma rai o’r rhesymau pam mae’r digwyddiad wedi cyrraedd y rhestr fer eto ar gyfer y ras 10k orau o’i bath yng Ngwobrau Rhedeg 2018.”
Ewch i www.10kbaeabertawe.com i gofrestru ar gyfer ras 10k y flwyddyn nesaf neu www.therunningawards.com i fwrw pleidlais dros y 10k yng Ngwobrau Rhedeg 2018.
Mae ffotograffau swyddogol o ras eleni bellach ar gael www.photo-fit.net
Cofrestrwch ar gyfer y ras 2018 nawr