Gwybodaeth bwysig am 10k Bae Abertawe Admiral 2021
*Sylwer: *chaiff y dudalen hon ei diweddaru’n rheolaidd*
Redwyr, rydym bron ar y llinell gychwyn!
Mae tîm 10k Bae Abertawe Admiral yn edrych ymlaen i’ch croesawu nôl i’r cwrs ar 19 Medi, yn enwedig gan mai hon fydd ein 40fed flwyddyn. Er ein bod yn gobeithio’ch bod chi yr un mor gyffrous â ni i redeg ar y cwrs trawiadol, mae COVID-19 yn golygu y bydd diwrnod ras 10k Bae Abertawe Admiral 2021 ychydig yn wahanol i’r blynyddoedd blaenorol.
Mae cynllun ac asesiad COVID-19 cynhwysfawr yn cael eu datblygu, gan olygu y gallwch ddal i fwynhau profiad ein diwrnod ras anhygoel ond gyda rhai newidiadau a mesurau ychwanegol i sicrhau bod y digwyddiad yn ddiogel i bawb sy’n rhan ohono, gan gynnwys y gymuned leol ehangach.
Mae’r cynlluniau’n cynnwys:
- Nifer is o redwyr, er mwyn rhoi mwy o le i bawb pan fyddant ar y cwrs.
- Lleihau nifer yr ardaloedd ar y ffordd lle bydd rhedwyr yn closio at ei gilydd
- Proses gychwyn hirach ac ardal gychwyn fwy, i ganiatáu mwy o le ac amser rhwng rhedwyr Bydd hyn yn helpu i wasgaru rhedwyr ar draws y cwrs o’r llinell gychwyn i’r llinell derfyn
- Caniatáu cadw pellter cymdeithasol
- Lleihau nifer y pwyntiau cyffwrdd ar y dydd
- Annog cefnogwyr i fynd ar wasgar ar hyd y llwybr 10k cyfan, gan roi mwy o le i bawb
- Cyfleusterau ar y safle’n cael eu glanhau’n amlach
- Annog yr holl redwyr a gwylwyr i gymryd prawf LFT cyn iddynt gyrraedd ar ddiwrnod y ras
Mae rhai newidiadau allweddol ar gyfer ras eleni – darllenwch yr adrannau canlynol yn ofalus cyn diwrnod y ras;
Cyn y ras
- Mae 2 babell wybodaeth eleni; pabell casglu crysau-t a gwybodaeth ar y Rec ger San Helen, a pwynt gwybodaeth yn y man gorffen
- Does DIM pwynt dŵr ar y pwynt 5k eleni. Cofiwch ystyried hyn wrth i chi gynllunio ar gyfer y ras
- Sylwer: ni fydd bysus gwennol i’r llinellau cychwyn eleni – dylech ystyried hyn wrth drefnu’ch cynlluniau teithio.
- Yn anffodus, ni fydd man storio bagiau eleni.
Dechrau’r ras
Mae un o’r newidiadau pwysicaf i fod yn ymwybodol ohono ar gyfer ras eleni’n ymwneud â’r broses ddechrau. Yr amser dechrau fydd 11am.
- Bydd ras 2021 yn dechrau unwaith eto ger Maes Rygbi a Chriced San Helen, ond bydd proses gychwyn hirach ac ardal gychwyn fwy i ganiatáu mwy o amser a lle rhwng rhedwyr. Bydd hyn i bob pwrpas yn gwasgaru’r rhedwyr o’r ardal gychwyn hyd at y diwedd.
- Ewch i San Helen lle byddwch yn gallu mynd i mewn i’r safle o’r gorllewin (lleoliad what3words – mute.slows.trials) a’r dwyrain (caller.rocky.output).
- Caiff rhedwyr eu galw ymlaen yn seiliedig ar amserau gorffen disgwyliedig, sy’n golygu y byddwch yn dechrau’r cwrs gyda rhedwyr o allu tebyg sydd ag amser gorffen targed tebyg.
Yn ystod y ras
Unwaith y byddwch wedi dechrau ras 10k Bae Abertawe Admiral 2021, byddwch yn rhedeg ar yr un cwrs trawiadol rydym i gyd yn gyfarwydd ag e’. Cadwch lygad am ein mannau cefnogi, cymeriadau a fydd yn cerdded o gwmpas y lle, a mwy ar y llwybr. Mae un gwahaniaeth allweddol i’r cwrs eleni;
- Dim ond un gorsaf ddŵr fydd yn ras 10k Bae Abertawe Admiral eleni, a honno ar y diwedd. NI fydd dŵr ar gael ar y marc 5km fel yn y blynyddoedd blaenorol. Cofiwch ystyried hyn wrth i chi baratoi ar gyfer y ras.
Gorffen y ras
- Wrth orffen y ras, byddwch yn derbyn dŵr a’ch medal gorffenwyr ras 10k Bae Abertawe Admiral. Eleni byddwch yn derbyn bag rhoddion rhithwir – cadwch lygad ar eich e-byst ar ôl y ras.
Rasys iau
Mae ein rasys iau hefyd wedi newid ychydig ar gyfer eleni;
- Bydd yr holl rasys iau (1k a 3k) yn dechrau o Faes Parcio Sketty Lane, ar yr amserau arferol (1k 7 oed ac iau 9.15am, 1k 8 – 11 oed 9.30am, 3km 10am)
- Sylwer: ni fydd bysus gwennol i’r llinellau cychwyn eleni – dylech ystyried hyn wrth drefnu’ch cynlluniau teithio.
- Mae’r llinell derfyn ar gyfer yr holl rasys iau yr un peth â’r blynyddoedd blaenorol (llinell derfyn y ras 10k, ger y senotaff ar y prom)
Mae cwrs y ras 3k ychydig yn wahanol eleni hefyd;
- Mae’r ras yn dechrau ym maes parcio Sketty Lane;
- bydd rhedwyr yn rhedeg i fyny’r prom i Brynmill Lane, ac yna’n ymuno â’r ffordd (a fydd ar gau) ac yn rhedeg tuag at ganol y ddinas cyn troi o gwmpas a rhedeg yn ôl i lawr i faes parcio Sketty.
- Byddant yn ailymuno â’r prom wrth y maes parcio ac yn ei ddilyn hyd at y linell derfyn (bydd yr un llinell derfyn ar gyfer pob ras, ger y senotaff)
Edrychwch ar ôl eich hun a’r rheini o’ch cwmpas
Mae’n hanfodol nad ydych yn dod i’r ras os:
- Ydych wedi cael prawf positif
- Ydych yn hunanynysu
- Oes gennych chi unrhyw un o’r symptomau COVID-19 nodweddiadol:
- tymheredd uchel – mae hyn yn golygu bod eich brest yn teimlo’n boeth pan gaiff ei gyffwrdd, neu
- beswch newydd, parhaus – mae hyn yn golygu pesychu llawer am fwy nag awr, neu 3 achlysur neu fwy o beswch mewn 24 awr neu
- wedi colli synnwyr arogli neu flasu neu wedi profi newid iddynt – mae hyn yn golygu eich bod wedi sylwi na allwch arogli neu flasu unrhyw beth, neu mae pethau’n arogli neu’n blasu’n wahanol i’r arfer
Rydym yn annog rhedwyr a gwylwyr i gymryd prawf LFT cyn iddynt gyrraedd ar y diwrnod. Nid yw brechiadau na phrofion LFT yn ofynnol ar gyfer y digwyddiad hwn
SUT I GAEL PRAWF LLIF UNFFORDD
- Gallwch archebu profion llif unffordd yma
- Gallwch ddod o hyd i fan casglu lleol yma
- Gallwch ddod o hyd i fan casglu fferyllfa leol yma
Gwylwyr
Fel rhan o’r cynlluniau, mae 10k Bae Abertawe Admiral yn gofyn i’r gymuned leol, teuluoedd a ffrindiau ymddwyn yn gyfrifol os ydynt yn gwylio ac yn cefnogi eleni.
I helpu i gynnal mesurau cadw pellter cymdeithasol ar ddiwrnod y ras, gofynnir i breswylwyr a chefnogwyr osgoi sefyll ger y llinell gychwyn a’r llinell derfyn (fel arfer y mannau mwyaf poblogaidd), a sefyll ar wasgar ar hyd yr holl llwybr yn lle. Bydd hyn yn helpu i sicrhau bod gan bawb le i gadw pellter cymdeithasol a hefyd i barhau i gefnogi’r redwyr ar hyd yr holl lwybr.
Ar gyfer ein 40fed ras, bydd gennym hefyd 4 man cefnogi ar hyd y llwybr! Bydd yr ardaloedd hyn yn cynnwys cerddoriaeth, dawnswyr codi hwyl a mwy i helpu’n rhedwyr! Gallwch ddod o hyd i’r Mannau Cefnogi:
- Ar waelod Brynmill Lane
- Ar waelod Sketty Lane
- Lido Blackpill
- Norton
Noddir ein mannau cefnogi gan Sancta Maria
Map o’r cwrs
Gallwch weld ein map cwrs rhyngweithiol ar-lein neu gallwch glicio yma am fersiwn i’w lawrlwytho.
Caiff y dudalen hon ei diweddaru’n rheolaidd cyn gynted ag y caiff cynlluniau eu cadarnhau – bydd yn cynnwys popeth y mae angen i chi ei wybod cyn diwrnod y ras, gan sicrhau profiad difyr, hamddenol a diogel.
Rydym yn deall y gall fod gennych gwestiynau a phryderon ynghylch ras eleni, felly rydym wedi rhoi rhai cwestiynau cyffredin ynghyd isod. A chofiwch wirio’n Harweiniad i’r Ras i gael yr holl wybodaeth arferol am y ras gan gynnwys cwestiynau cyffredin, gwybodaeth am deithio a mwy.Oes gennych gwestiwn nad yw wedi cael ei ateb? E-bostiwch y tîm yn 10kbaeabertawe@abertawe.gov.uk