Mae ras 10k Bae Abertawe Admiral yn un o’r llwybrau mwyaf godidog yn y DU!
Gan ddechrau ger y Senotaff ar Mumbles Road, bydd hanner cyntaf y cwrs yn dilyn y ffordd i lawr i ardal hardd y Mwmbwls, cyn dychwelyd ar hyd prom trawiadol Abertawe. Bydd ras eleni’n dechrau ar y ffordd, a bydd arwyddion ar gael i ddangos amserau gorffen amcanol fel y gallwch ymuno â’r rhedwyr sydd o allu tebyg ac a fydd yn gorffen y ras tua’r un amser â chi. Cadwch lygad am benwyr cyflymder hefyd. Mae rhywfaint o newid i’r llinell derfyn ar gyfer ras 2022 – wrth i chi fynd yn ôl ar hyd y prom, bydd rhedwyr yn ailymuno â’r ffordd wrth iddynt fynd heibio Brynmill Lane ac anelu am linell derfyn ar Mumbles Road.
Ar y llinell derfyn, bydd stiwardiaid yn eich arwain drwy’r twmffedi lle gallwch gasglu dŵr, eich medal a’r bag rhoddion, a fydd yn eich arwain chi yn ôl i bentref yr athletwyr.
Defnyddiwch ein map rhyngweithiol isod i’ch helpu i gael ymdeimlad o’r cwrs. Amlygir y siecbwyntiau ar bob cilometr, yn ogystal â lleoliadau allweddol (gorsafoedd dŵr, y babell wybodaeth, etc.)
Cyrsiau rasys iau
- Bydd y rasys Iau 1k a 3k yn dechrau ac yn gorffen ar brif linell gychwyn/derfyn y ras 10k.
- Mae’r llwybr 1k i blant iau yn llwybr syth ar hyd Mumbles Road ac yn ôl
- Mae’r llwybr 3k i blant iau yn mynd ar hyd Mumbles Road, yn troi ger maes parcio Sketty Lane ac yna’n mynd ar hyd y prom. Yna byddant yn ailymuno â Mumbles Road ar waelod Brynmill Lane, gan fynd yn ôl tuag at fynedfa Prifysgol Abertawe, cyn troi er mwyn dychwelyd i’r llinell derfyn wrth ymyl Y Rec.
I gael mynediad i’r allwedd, cliciwch ar eicon arwydd/ffenest yn y cornel chwith uchaf, cyn “Admiral Swansea Bay 10k”. I weld y map ar y sgrin lawn, cliciwch yr eicon blwch yn y gornel dde uchaf.