Rheolau’r ras ac amodau a thelerau cofrestru
Mae Ras 10K Bae Abertawe a’r cyfranogwyr yn dilyn y rheolau a nodir gan Gymdeithas Athletau’r DU, ac maent yn amodol arnynt. Ewch i www.uka.org.uk am fwy o wybodaeth am y rheolau mandedig gan gyrff llywodraethu’r chwaraeon.
Bydd methu dilyn y rheolau digwyddiad hyn, y gellir eu newid, arwain at waharddiad uniongyrchol, colli’r wobr ariannol a chael eich tynnu oddi ar y canlyniadau swyddogol.
COVID-19 a 10k Bae Abertawe
Cynhelir y ras yn unol â rheoliadau a chanllawiau Llywodraeth Cymru, Iechyd Cyhoeddus Cymru ac Athletau’r DU sy’n berthnasol ar y pryd. Mae cynlluniau’n cael eu datblygu a’u hadolygu wrth i wybodaeth a chanllawiau newydd gael eu cyhoeddi a gallai hyn gynnwys newidiadau a mesurau ychwanegol i sicrhau bod y digwyddiad yn ddiogel i bawb a fydd yn cymryd rhan, gan gynnwys y gymuned leol ehangach.
Bydd yr holl randdeiliaid, swyddogion, gwirfoddolwyr a chyflenwyr perthnasol y digwyddiad, h.y. pawb sy’n cymryd rhan, yn ymrwymedig i gynnal digwyddiad diogel o ran COVID-19 yn unol â’r rheoliadau perthnasol ar y pryd. Rydym yn gobeithio y byddwch yn ymuno â ni i sicrhau ei fod yn ddigwyddiad diogel a llwyddiannus.
Cyfranogiad (Pob digwyddiad)
Mae’n rhaid bod cyfranogwyr y rasys wedi cyrraedd yr oedrannau canlynol
- 10k – 15 oed neu’n hŷn ar ddiwrnod y digwyddiad
- 3k – 9-14 oed
- 1k – 11 oed ac iau; bydd yr amserau dechrau’n cael eu rhannu i ddau gategori oedran 8-11 oed, a 7 oed ac iau
- Mae’n rhaid i bob cyfranogwr lofnodi’r ymwadiad cyn cymryd rhan yn y digwyddiad. (Dylai rhieni neu ofalwyr cyfreithiol lofnodi ar ran cystadleuwyr iau).
- Trwy gymryd rhan yn nigwyddiad ras 10k Bae Abertawe, rydych yn cydnabod ac yn cytuno y gall gwybodaeth bersonol (gan gynnwys gwybodaeth feddygol a nodwyd yn erbyn eich rhif ras neu a gasglwyd gan staff meddygol y digwyddiad yn ystod neu ar ôl y digwyddiad) gael ei storio a’i defnyddio gan y cyngor mewn cysylltiad â’r digwyddiad, hyrwyddo a gweinyddu’r digwyddiad ac ar gyfer casglu gwybodaeth ystadegol.
- Trwy gymryd rhan, bydd pob cyfranogwr yn cadarnhau y gall ei enw a’i ffilmiau teledu a/neu fideos neu luniau a dynnwyd yn ystod ei gyfranogiad gael eu defnyddio i hyrwyddo digwyddiadau Ras 10K Bae Abertawe a digwyddiadau Dinas a Sir Abertawe.
- Mae rhifau ras cyfranogwyr yn fanylion personol penodol a chaniateir i chi eu trosglwyddo trwy ddefnyddio hwb aelodau Njuko yn unig. Codir ffi fach (ynghyd â ffïoedd talu cysylltiedig), i’w thalu gan y sawl sy’n trosglwyddo. Y dyddiad olaf i drosglwyddo bydd 31 Gorffennaf 2025. Gwaherddir gwerthu a/neu drosglwyddo rhifau ras heb ganiatâd – bydd gwneud hyn yn arwain at wahardd a/neu atal unigolion sy’n euog o hyn o’r digwyddiad hwn ac unrhyw ddigwyddiadau yn y dyfodol, ac adroddir amdanynt i sefydliad Athletau’r DU. Ni fydd ffïoedd cystadlu yn cael eu had-dalu, ac ni ellir eu trosglwyddo ar gyfer digwyddiad yn y dyfodol.
- Os caiff y digwyddiad ei ohirio/aildrefnu oherwydd COVID-19, gall cyfranogwyr ofyn am ad-daliad neu drosglwyddo eu lle yn y ras i unigolyn arall am ddim hyd at 14 Medi 2025. Ni roddir ad-daliadau ar gyfer ceisiadau a dderbynnir ar ôl 14 Medi 2025 a chodir ffi weinyddol o £5 ar gyfer unrhyw geisiadau i drosglwyddo lleoedd ar ôl y dyddiad hwn.
- Bernir bod ymgeisydd wedi ymgyfarwyddo’i hun â Rheolau Atal Camddefnyddio Cyffuriau Athletau’r DU, ac wedi cytuno i fod yn rhwymedig iddynt, ac i ymostwng i awdurdod Atal Camddefnyddio Cyffuriau Athletau’r DU wrth gymhwyso a gorfodi’r Rheolau Atal Camddefnyddio Cyffuriau. Mae Rheolau Atal Camddefnyddio Cyffuriau Athletau’r DU yn berthnasol i’r rheini sy’n cymryd rhan yng nghamp athletau, am 12 mis o’r dyddiad cofrestru, p’un a yw deiliad y drwydded yn ddinesydd, neu’n preswylio yn y DU ai peidio.
- Bydd cofrestriadau’n cau pan fyddwn yn cyrraedd uchafswm nifer y cyfranogwyr ar gyfer pob digwyddiad. Os nad ydym yn cyrraedd hwn, bydd y cofrestriadau’n cau am 12pm ar 31 Awst 2025. Lleoedd ychwanegol wedi’u cyhoeddi ar gyfer ras 2027 – mae amser i chi gofrestru o hyd!
- Caiff unrhyw gyfranogwyr nad ydynt wedi gofyn am ad-daliad cyn 14 Medi 2025 yn dilyn gohirio’r ras oherwydd COVID-19 eu trosglwyddo’n awtomatig i ddigwyddiad 2025. Ni fydd cyfranogwyr yn gallu gohirio eu lle i ddigwyddiad arall yn y dyfodol, e.e. digwyddiad 2027.
- Ni ddylai cyfranogwyr fod o dan ddylanwad alcohol neu gyffuriau.
Eich Preifatrwydd
- Ymdrinnir â data personol rydych yn ei ddarparu yn eich cais yn unol â hysbysiad preifatrwydd y cyngor a pholisi preifatrwydd Njuko.
Diwrnod y digwyddiad (Pob digwyddiad)
- Mae’n rhaid i gyfranogwyr ddilyn cyfarwyddiadau a roddir gan holl swyddogion y digwyddiad gan gynnwys staff y ras, gwirfoddolwyr, gweithwyr meddygol, swyddogion diogelwch a swyddogion y cyngor cyn, yn ystod ac ar ôl y digwyddiad.
- Disgwylir i’r holl gyfranogwyr ymddwyn yn broffesiynol ac yn gwrtais yn ystod y digwyddiad. Mae hyn yn golygu, er enghraifft, y gwaherddir troethi neu ysgarthu unrhyw le ar y llwybr neu ger y llwybr ar wahân i mewn cyfleusterau toiled. Bydd unrhyw un sy’n torri’r rheol ymddygiad hon yn cael ei wahardd o’r digwyddiad a gofynnir iddo adael y ras.
- Bydd pob cyfranogwr yn derbyn rhif ras, y mae’n RHAID ei wisgo ar FLAEN ei grys/fest ac yn y golwg ar bob adeg yn ystod y digwyddiad. Dylid gwisgo’r rhif ras fel y’i dosbarthwyd ac ni ddylid ei dorri na’i blygu mewn unrhyw ffordd. Ni chaniateir i unrhyw gyfranogwr gymryd rhan mewn unrhyw ddigwyddiad heb rif addas. Gwaherddir cyfnewid rhifau ras gydag unrhyw un arall gan y mae’n bosib y gallai hyn beryglu bywyd rhywun. Bydd unrhyw un y canfyddir ei fod yn cyfnewid rhifau ras ei ddiarddel o’r digwyddiad hwn a digwyddiadau posib yn y dyfodol ac adroddir am hyn i Athletau’r DU.
- Mae’n rhaid i bob rhedwr ysgrifennu ei enw a manylion unrhyw broblemau iechyd neu feddyginiaeth ar gefn y rhif ras yn ogystal â manylion ei berthynas agosaf y gellir cysylltu â hwy mewn argyfwng. Mae’n rhaid gwisgo’r rhifau ar flaen eich crys/fest yn ystod y ras. Dylai cyfranogwyr hefyd hysbysu trefnwyr y ras ymlaen llaw am unrhyw gyflyrau meddygol arbennig.
- Ni chaniateir loncwyr babanod, cadeiriau gwthio babanod, byrddau sglefrfyrddio, beiciau anawdurdodedig nac unrhyw ddyfais arall ag olwynion ar y llwybr, ar wahân i gadeiriau olwyn a yrrir â llaw yn y ras cadeiriau olwyn.
- Mae’n rhaid i gyfranogwyr ddechrau’r digwyddiadau yn ystod yr amserau dechrau swyddogol.
- Mae cyfranogwyr yn cymryd rhan ar eu menter eu hunain. Nid yw Dinas a Sir Abertawe’n cymryd unrhyw gyfrifoldeb am salwch, anaf, colled neu ddifrod y bydd y cystadleuwyr yn ei ddioddef.
- Mae’n rhaid i gyfranogwyr fod yn iach yn gorfforol ac mae’n rhaid iddynt allu cwblhau’r llwybr 10k o fewn 2 awr o groesi’r llinell gychwyn. Bydd ffyrdd sydd ar gau ar gyfer y brif ras 10k yn ail agor ar bwynt ar ôl i’r ras ddechrau a benderfynnir ar sail iechyd a diogelwch a materion gweithredol. Bydd cerbyd cefnogi’n dilyn marcwyr cefn ras y 10k. Bydd stiward/swyddog/marsial y ras yn gofyn i unrhyw un y maent yn ystyried na fydd yn gallu cwblhau’r ras mewn amser rhesymol i ddefnyddio’r palmant os bydd yn penderfynu parhau gan y bydd y ffyrdd yn cael eu hagor ac ni ellir sicrhau eu diogelwch. Os byddwch yn bell iawn y tu ôl rydym yn eich cynghori yn erbyn parhau a dylech ofyn i’r stiward ofyn am gerbyd cludo i fynd â chi i’r llinell derfyn. Os byddwch yn parhau ni fyddwn yn gallu sicrhau y bydd y ffyrdd yn parhau ar gau, na bod y marsialiaid a gorsafoedd yfed dal yn eu lle. Cyn dechrau’r ras dylech ystyried eich gallu i gwblhau’r ras mewn amser rhesymol yn ofalus.
- Ni ddylai cyfranogwyr ddod ag eitemau gwerthfawr nac arian parod i’w adael yn eich bag a fydd yn cael ei roi yn y parth bagiau.
- Nid oes hawl i gŵn redeg gyda rhedwyr yn ystod unrhyw ddigwyddiad.
Dechrau’r 10k
- Bydd “llociau amser” yn cael eu dyrannu i gyfranogwyr yn unol ag amser gorffen disgwyliedig y rhedwyr.
- Bydd y cyfranogwyr yn ymgynnull yn eu lloc amser dynodedig o leiaf 10 munud cyn dechrau’r ras.
- Bydd unrhyw athletwr sy’n ceisio mynd yn y llociau amser yn hwyr ac yn agos i’r amser dechrau’n cael ei gyfeirio i gefn y rhedwyr sydd wedi ymgynnull a gofynnir iddo ddechrau ar ôl i’r holl gyfranogwyr eraill groesi’r llinell gychwyn.
- Bydd yr holl gyfranogwyr yn mynd yn y lloc amser o’r cefn oni bai bod swyddog digwyddiad yn eu cyfarwyddo’n wahanol. Bydd unrhyw un sy’n dringo’r ffens/rhwystr neu’n cael mynediad mewn ffordd amhriodol arall yn cael ei anghymhwyso o’r digwyddiad.
- Mae’n rhaid i’r holl gyfranogwyr fod y tu ôl i’r llinell gychwyn wrth gychwyn ac mae’n rhaid iddynt redeg dros y mat cychwyn i weithredu eu sglodyn amseru. Bydd methu gwneud hynny’n golygu na fydd amser gorffen ar gael iddynt.
Monitro’r llwybr (Pob digwyddiad)
- Gall unrhyw gyfranogwr sy’n gwrthod dilyn cyfarwyddiadau unrhyw swyddog digwyddiad neu farsial llwybr, neu sy’n ymddwyn mewn ffordd annheg, neu sy’n defnyddio ystumiau neu iaith ymosodol tuag at swyddogion, gwirfoddolwyr, cyfranogwyr neu wylwyr gael ei wahardd o’r digwyddiad ac unrhyw ddigwyddiad yn y dyfodol yn ôl disgresiwn swyddogion y ras.
- Os bydd marsial cwrs, swyddog digwyddiad neu offer goruchwylio’n gweld bod unrhyw gyfranogwr wedi ennill mantais annheg trwy fyrhau llwybr y ras yn fwriadol (“torri’r cwrs”), caiff ei anghymhwyso o’r digwyddiad ar unwaith ac adroddir am hyn i Athletau’r DU.
- Bydd unrhyw berson sy’n cymryd rhan yn y digwyddiad naill ai a) heb rif ras swyddogol cyfredol neu ddyfais sglodyn amseru neu b) gyda sglodyn neu rif ras na neilltuwyd iddo/iddi’n swyddogol yn cael ei dynnu a’i wahardd o’r digwyddiad hwn a digwyddiadau yn y dyfodol.
- Nid oes gan unrhyw berson yr awdurdod i fod ar y llwybr oni bai ei fod yn gyfranogwr cofrestredig. Felly, ni all unrhyw berson fynd gyda chyfranogwr arall os nad yw ef/hi wedi cofrestru ar gyfer y digwyddiad, ac nid oes hawl gan unrhyw gyfranogwr dderbyn cymorth gan unrhyw un yn ystod y digwyddiad heb ganiatâd rheolwyr y digwyddiad. Gofynnir i unrhyw berson nad yw’n arddangos rhif ras awdurdodedig adael y llwybr.
- Ni fydd archwiliad meddygol yn ystod y digwyddiad gan weithiwr meddygol dynodedig swyddogol yn cael ei ystyried fel cymorth ac ni fydd yn arwain at waharddiad os bydd y cyfranogwr yn cael ei ddatgan yn abl yn feddygol. Os bydd cyfranogwr yn sâl yn ystod neu ar ôl y digwyddiad a/neu’n derbyn sylw neu driniaeth feddygol naill ai gan staff meddygol y digwyddiad, neu unrhyw feddyg neu ysbyty, maent yn caniatáu iddynt ddarparu manylion (gan gynnwys manylion triniaeth feddygol) i Gydlynydd Meddygol Ras 10K Bae Abertawe neu eraill a awdurdodwyd ganddynt.
Diogelwch cyfranogwyr (Pob digwyddiad)
- Mae’r defnydd o ddyfeisiau ag olwynion gan gyfranogwyr neu unrhyw berson awdurdodedig arall a fydd ar y llwybr yn cael ei gyfyngu i (a) gyfranogwyr cadair olwyn gystadleuol awdurdodedig a chofrestredig a (b) marsialiaid llwybr awdurdodedig ar feiciau. Ni chaniateir loncwyr babanod, cadeiriau gwthio babanod, byrddau sglefrfyrddio, beiciau anawdurdodedig nac unrhyw ddyfais arall ag olwynion.
- Gwaherddir y defnydd o iPods, chwaraewyr mp3 neu unrhyw chwaraewr digidol yn ystod y ras gan y gallant eich rhwystro rhag clywed unrhyw gyhoeddiadau brys dros y system sain, neu seirenau cerbydau brys os byddant yn dod tuag atoch o’r tu cefn ar eu ffordd i argyfwng.
- Mae cyfranogwyr yn gyfrifol am eu cydnabyddiaeth a’u dealltwriaeth o arwyddion y digwyddiad, symbolau a lliwiau’n ymwneud â mapiau cyfranogwyr, cyfleusterau a chyfarwyddiadau.
- Gall gweithiwr meddygol sydd wedi derbyn awdurdod gan y digwyddiad archwilio unrhyw gyfranogwr sy’n ymddangos mewn cyfyngder. Os bydd barn y gweithiwr meddygol awdurdodedig er budd iechyd a lles y cyfranogwr, gall gweithwyr meddygol dynnu’r cyfranogwr o’r digwyddiad.
- Mae’n rhaid i gyfranogwyr dynnu’n ôl o’r ras os bydd aelod o staff swyddogol y digwyddiad, staff meddygol swyddogol, neu unrhyw berson mewn awdurdod, gan gynnwys gweithwyr y gwasanaeth brys yn dweud wrthych i wneud hynny.
- Mae cyfranogwyr yn gyfrifol am unrhyw dreuliau meddygol a achoswyd o ganlyniad i hyfforddiant ar gyfer a/neu gyfranogiad yn y digwyddiad gan gynnwys, ond nid yn gyfyngedig i gludiant ambiwlans, aros mewn ysbyty, nwyddau a gwasanaethau meddygol a fferyllol.
- Er diogelwch, mae gan Gyfarwyddwr y Ras a swyddogion y digwyddiad, mewn ymgynghoriad â’r Gwasanaethau Argyfwng, yr hawl i ohirio, i ganslo, neu oedi’r ras o ganlyniad i dywydd gwael neu ddigwyddiad mawr ar lwybr y digwyddiad neu gerllaw iddo. Yn yr amgylchiadau hyn, ni roddir ad-daliad.
- Os bydd unrhyw ddigwyddiad mawr ar hyd y llwybr, bydd gan Gyfarwyddwr y Ras a’r Gwasanaethau Brys yr hawl i newid/byrhau’r llwybr, ond parhau i gynnal ras os yw’n bosib. Yn yr amgylchiadau hyn, ni roddir ad-daliad.
- Mae gan Gyfarwyddwr y Ras a’r Gwasanaethau Brys yr hawl i stopio’r ras ar unrhyw adeg, os oes angen. Byddai’r rhain mewn amgylchiadau y tu hwnt i’n rheolaeth ac ni roddir ad-daliad.
Amser y canlyniad (Pob digwyddiad)
- Dyrennir dyfais amseru ar ffurf sglodyn sydd wedi’i hatodi ar gefn eu rhif ras cyn y digwyddiad, ac sydd wedi’i chynnwys yn eu pecyn ras.
- Amser gwn yw’r amser swyddogol a ddefnyddir ar gyfer holl ganlyniadau’r gwobrau. Cyfrifir amserau swyddogol o ddechrau’r ras gan y corn/gwn dechrau i’r pwynt lle mae’r cyfranogwr yn croesi’r llinell derfyn. Bydd yr amserau’n cael eu talgrynnu i’r eiliad uchaf nesaf.
- Rhaid i gyfranogwyr wisgo’u dyfeisiau amseru ar ffurf sglodyn sydd ar gefn eu rhif ras o’r llinell gychwyn i’r llinell derfyn er mwyn derbyn amser gorffen cywir.
- Bydd cyfranogwyr sy’n gwisgo dau neu fwy o ddyfeisiau amseru yn ystod y ras yn cael eu gwahardd ac ni fydd eu canlyniad yn cael ei gofnodi.
- Mae’n rhaid i gyfranogwyr ddechrau’r digwyddiad yn ystod yr amser dechrau cydnabyddedig er mwyn cofrestru amser cwblhau swyddogol.
Eithriadau
Bydd rhaid i unrhyw unigolyn sy’n gofyn am gael ei hepgor o unrhyw un o’r rheolau hyn ar gyfer y digwyddiadd gyflwyno cais ysgrifenedig 30 diwrnod ar y mwyaf cyn dyddiad y digwyddiad yn nodi natur y cais a’r rhesymau dros y cais.
Newidiadau/Eithriadau/Cydnabyddiaethau
- Mae gan swyddogion y digwyddiad yr hawl i newid, atodi neu hepgor rheolau’r digwyddiad neu ran ohonynt heb rybudd. Cyfrifoldeb y cyfranogwr yw gwirio gwefan y digwyddiad am unrhyw newidiadau.
- Bydd cyfranogwyr wedi’u rhwymo at unrhyw newid neu atodiad i reolau’r digwyddiad a gyhoeddir cyn y digwyddiad.
Bydd methu dilyn y rheolau digwyddiad hyn, y gellir eu newid, arwain at waharddiad uniongyrchol, colli’r wobr ariannol a chael eich tynnu oddi ar y canlyniadau swyddogol.