Clybiau rhedeg y byddwch efallai am ymuno â nhw, neu eu hystyried
Mae clybiau rhedeg yn rhan bwysig o ddatblygiad personol athletwr. Mae clybiau’n cael eu strwythuro a’u datblygu i gefnogi’r athletwr ar unrhyw adeg yn ei fywyd rhedeg.
Yn ogystal â bod i’r goreuon, mae clybiau’n croesawu unrhyw redwr brwdfrydig. Felly, os ydych yn ystyried ymuno â chlwb rhedeg yn eich ardal, am ba reswm bynnag, p’un ai ffitrwydd, iechyd, gwneud ffrindiau neu gystadlu, ewch draw i un o’r grwpiau gwych isod.
Nid ydym yn cefnogi neu’n argymell y clybiau hyn o gwbl. Yn hytrach, rydym yn rhoi gwybod i chi am glybiau yn yr ardal leol, os yw hyn yn rhywbeth sydd o ddiddordeb i chi.
Ydyn ni wedi colli un? Hoffech i’ch clwb chi gael ei gynnwys ar y dudalen hon?
Mae croeso i chi e-bostio: special.events@swansea.gov.uk.