Dyddiad: 20 Medi 2020, 11am
Cynhelir ras 10k Bae Abertawe Admiral ar hyd bae eiconig, hyfryd Abertawe ac mae ar agor i bobl o bob gallu 15+ oed. Mae’r cwrs yn boblogaidd gyda rhedwyr profiadol a thro cyntaf oherwydd bod y cwrs gwastad a chyflym yn gyflwyniad perffaith i redeg ffordd ac yn berffaith ar gyfer gwella ar eich amser gorau. Mae hyn i gyd, ar y cyd ag awyrgylch teulu gwych yn golygu bod y ras wedi ennill gwobr arian ar gyfer y 10k gorau yn y DU am y ddwy flynedd ddiwethaf yng Ngwobrau Rhedeg y DU.
Rydym hefyd yn rhoi cyflwyniad gwych i redeg ffordd i blant gyda’n rasys iau pellteroedd 1k a 3k. Mae ein hawyrgylch hwyl a chyfeillgar yn sicrhau bod pawb yn cael amser gwych, ac mae rhieni’n cael rhedeg gyda’u plant hefyd! Mae ein rasys iau mor boblogaidd, cawsom ein pleidleisio’n Ddigwyddiad Gorau i Blant yng Ngwobrau Rhedeg y DU 2017.
Peidiwch â cholli’r cynnig cynnar – cofrestrwch cyn 31 Ionawr 2019 i fanteisio ar brisiau’r llynedd!
*Newyddion*
Amserau Rasio Newydd
Ar ôl gwrando ar adborth gan redwyr, bydd amserau dechrau cynharach ar gyfer 10k Bae Abertawe Admiral 2019!
Y llynedd, cawsom ein henwi fel y ras 10k Orau yng Nghymru yn y Gwobrau Rhedeg – diolch i chi gyd am eich cefnogaeth! Rydym wedi cael ein henwebu unwaith eto eleni felly helpwch ni i gael ein henwi fel y ras 10k orau yn y DU! Helpwch ni i ennill teitl ras 10k orau’r DU!
RAS 10K
Cofrestrwch i gymryd rhan yn 10k Bae Abertawe Admiral ar-lein Mwy…
RASYS IAU 1K A 3K
Mwy o wybodaeth am y gyfres rasys iau Mwy…
CANLYNIADAU
Canlyniadau o flynyddoedd blaenorol Mwy…
HYFFORDDIANT
Cymorth ac awgrymiadau i’ch paratoi ar gyfer y ras Mwy…
ELUSEN A NODDI
Rhedwch a chodi arian at achos da Mwy…
ARWEINIAD I’R RAS
Sicrhewch eich bod yn barod ar gyfer pob agwedd ar ddiwrnod y ras Mwy…
Cliciwch ar y ddolen isod i gael mwy o wybodaeth am eich sgôr handicap Run Britain – mae dros 50,000 o bobl eisoes wedi gwneud! Ewch i wefan Run Britain |
Photo-fit.com yw ffotograffwyr swyddogol y 10k – ewch i edrych ar ôl y ras i weld eich llun |