Lleoedd ychwanegol wedi’u cyhoeddi ar gyfer ras 2022 – mae amser i chi gofrestru o hyd!
Bythefnos yn unig sydd ar ôl i bobl sy’n dwlu ar ffitrwydd a chodi arian i elusennau gyflwyno’u ceisiadau ar gyfer 10k Bae Abertawe Admiral eleni.
Cyngor Abertawe sy’n gyfrifol am y digwyddiad, sy’n cael ei noddi gan Admiral. Yn ogystal â’r ras 10k, bydd rasys iau 1k a 3k ynghyd â ras 10k mewn cadair olwyn. Disgwylir i oddeutu 5,000 o bobl gymryd rhan yn y ras boblogaidd hon unwaith eto eleni.
Meddai Robert Francis-Davies, Aelod Cabinet Cyngor Abertawe dros Fuddsoddi, Adfywio a Thwristiaeth, “Mae Ras 10k Bae Abertawe Admiral, sy’n un o ddigwyddiadau mwyaf poblogaidd y flwyddyn yn Abertawe, yn ras wych i athletwyr profiadol, pobl sy’n codi arian ar gyfer elusennau a phobl sydd am guro eu hamseroedd gorau neu drechu nodau ffitrwydd personol.
“Gyda golygfeydd prydferth Bae Abertawe yn y cefndir a’r ras yn cael ei rhedeg ar lwybr gwastad, mae’r digwyddiad arobryn hwn hefyd yn cynnwys rasys i blant sy’n rhoi cyflwyniad perffaith i redeg ar y ffordd iddynt.”
Mae Ras 10k Bae Abertawe Admiral wedi ennill sawl gwobr dros y blynyddoedd ac roedd tua 4,000 o redwyr wedi cymryd rhan ym mhrif ras y llynedd, ar gwrs a oedd yn mynd o safle San Helen i’r Mwmbwls ac yn ôl.
“Mae’r bobl sy’n cymryd rhan yn y ras yn gadarnhaol iawn am y profiad oherwydd safon trefnu a rheoli’r ras ac oherwydd y gefnogaeth maent yn ei derbyn gan y cannoedd o bobl sy’n bresennol ar hyd y llwybr.
“Gyda’r dyddiad cau ar ddiwedd mis Awst, hoffwn annog unrhyw un sydd â diddordeb mewn cymryd rhan yn nigwyddiad eleni i gofrestru cyn gynted â phosib i osgoi cael eich siomi. Hyn a hyn o leoedd sydd ar ôl ac mae’r ras bob amser yn llawn, yn aml cyn y dyddiad cau.”
Dyma’r 16eg ras 10k Bae Abertawe y mae Admiral wedi’i noddi. Meddai Paul Billington, Rheolwr Lles a Chymorth yn y Gweithle Admiral UK, “Rydym yn falch o gefnogi ras 10k Bae Abertawe Admiral am yr 16fed flwyddyn.
“Mae’n wych gweld cynifer o bobl yn dod at ei gilydd i gymryd rhan, o athletwyr proffesiynol i’r rheini sy’n rhoi cynnig arni am y tro cyntaf. Mae dros 200 o weithwyr Admiral wedi cofrestru ar gyfer yr her ac maent yn edrych ymlaen at ddigwyddiad gwych arall. Pob lwc i bawb a fydd yn cymryd rhan!”
Ras 10k a Ras Hwyl Bae Abertawe – Y Dechrau
Dros yr ychydig wythnosau nesaf i ddathlu ein pen-blwydd yn 40 oed, bydd Nigel Jones, sydd wedi bod yn Gyfarwyddwr Rasys 10k Cyngor Abertawe ers 1986, yn archwilio’i archif 10k helaeth ac yn siarad â rhai o’r bobl allweddol sydd wedi bod yn rhan o’r ras dros y blynyddoedd.
Mae ein hail erthygl gan David Flynn, cyfarwyddwr y ras 10k Bae Abertawe wreiddiol ym 1981…
Yn dilyn llwyddiant mawr y Marathon Llundain cychwynnol yng ngwanwyn 1981, cynigodd Cyfarwyddwr Datblygu Economaidd Cyngor Abertawe ar y pryd, Roger Warren-Evans, y dylai cyngor y ddinas gynnal marathon i dorf o gyfranogwyr i helpu i hyrwyddo’r ddinas.
Rhan o’m swydd fel Cynorthwy-ydd Chwaraeon ar y pryd, oedd trefnu Pencampwriaethau Dinesig y Cyngor gan gynnwys ras hwyl Calan Mai flynyddol, y rhoddais fywyd newydd iddi trwy ei hyrwyddo’n eang fel ras hwyl yng ngwir ystyr y gair. A minnau’n rhedwr cystadleuol, fy nghyfrifoldeb i a’m rheolwr llinell, J Andrew Reid, oedd ystyried ymarferoldeb cynnal digwyddiad o’r fath yn Abertawe.
Daeth yn amlwg yn fuan nad oedd llwybr addas o fewn ffiniau’r ddinas, felly dechreuon ni drafodaethau gyda Chyngor Castell-nedd er mwyn cynnal digwyddiad ar y cyd gyda llwybr arfaethedig gan ddefnyddio Mumbles Road/Promenâd, A4067 a’r A483 yn Abertawe ac yna ymlaen ar hyd yr A483 (Jersey a’r A48 yng Nghastell-nedd a Phort Talbot.
Wrth i ymarferoldeb y digwyddiad gael ei drafod mewn nifer o gyfarfodydd, cynhaliwyd hanner marathon “prawf” yng Nghastell-nedd o gaeau chwarae Cwrt Herbert i fyny ac o gwmpas cwrs heriol iawn hyd at y Creunant ac yn ôl i Gastell-nedd trwy rai ffyrdd cefn.
Ni ddefnyddiwyd y cwrs hwn byth eto ond roedd yn rhagflaenydd i hanner marathon Castell-nedd llwyddiannus iawn a ddechreuodd yn Llandarcy (Gellir gweld fideo o ddigwyddiad 1986 ar YouTube).
Yma mae’r stori’n datblygu a chafwyd y syniad o ras 10k Bae Abertawe.
Roedd grŵp o Harriers Abertawe a oedd yn fy nghynnwys i, Steve “Jock” Seaman a Gerry Batty a John Collins, sydd bellach wedi marw, yn cael peint ar ôl noson hyfforddi yn y clwb a chododd pwnc y marathon a theimlwyd nad oedd isadeiledd addas ar gyfer trefnu marathon yn Abertawe i’r raddfa yr oedd y cyngor yn ei ddymuno ac wedyn trafodwyd pellterau eraill.
Roedd John Collins wedi bod yn un o aelodau sefydlu Cynghrair Traws Gwlad hynod lwyddiannus Gwent (a ailenwyd yn Gynghrair Traws Gwlad Gwent JH Collins yn ddiweddar) ac roedd Gerry Batty yn un o sylfaenwyr Cynghrair Traws Gwlad boblogaidd Gorllewin Morgannwg, felly roedd gan y ddau brofiad gwych ac mae’r ddwy gynghrair yn parhau i fod yn llwyddiannus hyd heddiw. Rwy’n credu bod Gerry, a oedd yn gweithio yn y Gofrestrfa Tir, ac a oedd bob amser yn edrych ar fapiau ar gyfer rasys hyfforddi amrywiol, wedi awgrymu ras allan yn ôl ac ymlaen o gae criced a rygbi San Helen i’r Mwmbwls – llwybr hyfforddi a ddefnyddir yn rheolaidd hyd heddiw.
Dywedais wrth y cyngor am hyn a oedd yn cytuno’n llwyr â’r syniad, a gofynnwyd i mi ei threfnu.
Dwi ddim am fynd i fanylion y cynllunio, ond mae’n werth nodi nad oedd Mumbles Road erioed wedi bod ar gau i draffig ar gyfer digwyddiad o’r fath o’r blaen, ond ar ôl sawl cyfarfod gyda’r Swyddog Diogelwch Ffyrdd, Elwyn Davies, tad Stuart Davies, Capten Rygbi Abertawe a Chapten Rygbi Cymru’r dyfodol, rhoddodd Adran Priffyrdd Gorllewin Morgannwg gymeradwyaeth i gau’r ffyrdd a dechreuodd y gwaith ar gynllunio’r ras 10k Bae Abertawe gyntaf o ddifri.
Roedd y llwybr yn syml, allan i’r Mwmbwls ar y ffordd ac yn ôl ar hyd y Promenâd, ond yn wahanol i heddiw doedd dim pont droed yn Lido Blackpill felly aeth y llwybr o gwmpas y llyn cychod ac i’r palmant i ailymuno â’r cwrs.
O’r dechrau, y cynllun oedd cynnal ras a ras hwyl a fyddai’n dal prawf amser trwy sicrhau bod y ras o’r ansawdd uchaf fel Marathon Llundain a bod y cwrs yn addas i bawb. Dyma’r adeg y cynhaliwyd rasys hwyl ledled y wlad ac yn aml roedd eu poblogrwydd cychwynnol yn diflannu ar ôl ychydig flynyddoedd.
I wneud hyn, aethom ati i sicrhau noddwyr lleol, a’r cyntaf oedd y South Wales Evening Post ac yna Allux Windows ynghyd â chyllideb hael gan y cyngor ac roedd y cynnig hwn yn caniatáu i ni gynnig gwobr ariannol hael a thalu costau teithio a llety ar gyfer athletwyr profiadol gwahoddedig fel a wnaed mewn rasys mawr eraill.
Gweithiodd y strategaeth hon a denwyd rhedwyr o’r safon uchaf i’r ras o bob rhan o’r DU ac mae hyn yn parhau hyd heddiw.
Er mwyn hybu apêl y ras o deithio i Abertawe ymhellach, cynhaliwyd ras 5k wâdd nos Wener cyn y prif ddigwyddiad yn ail flwyddyn y digwyddiad o gwmpas hen Ganolfan Siopa Dewi Sant. Roedd hyn yn fyrhoedlog oherwydd tranc y ganolfan.
Roeddwn i’n Gyfarwyddwr y Ras am 5 mlynedd gyntaf y digwyddiad cyn trosglwyddo’r awenau i Nigel Jones, sy’n parhau i fod yn Gyfarwyddwr y Ras hyd heddiw.
gan David (Dai / Dave) Flynn
Anelu at aur yn ras 10k eiconig Abertawe
Roedd rhedwyr yn anelu at aur yn ras 10k Bae Abertawe Admiral eleni. Roedd y digwyddiad yn fôr o aur a du gan fod y lliwiau ar gyfer ras eleni’n helpu i nodi pen-blwydd aur y ddinas.
Mark Kennedy a Gayle Hughes o Landeilo Ferwallt oedd enillwyr lwcus ein cystadleuaeth Tocynnau Aur Abertawe 50.
Un ogystal ag ennill mynediad am ddim i’r ras, roedd Mark a Gayle hefyd yn gwisgo’n bibiau ras arbennig â’r rhifau 1969 a 2019 i goffáu dyddiadau hanner canmlwyddiant y ddinas.
Ymunon nhw â miloedd o redwyr ar gyfer un o’r digwyddiadau gorau o’i fath yn y DU sy’n denu cefnogwyr a chystadleuwyr o bob cwr o’r DU. Dyma’r ras 10k orau yng Nghymru yn ôl Gwobrau Rhedeg 2019.
Meddai’r Cyng. Robert Francis-Davies, Aelod Cabinet Cyngor Abertawe dros Fuddsoddi, Adfywio a Thwristiaeth, “Roedd yn fraint i’n dinas groesawu cynifer o redwyr brwd y penwythnos hwn; ffordd arbennig arall i Abertawe ddathlu ei 50 mlynedd gyntaf fel dinas.
“Mae cwrs 10k Bae Abertawe Admiral yn un gwych sy’n addas i redwyr, gyda rhai o’r golygfeydd mwyaf bendigedig yn unrhyw le yn y DU – mae’n ddathliad o’n diwylliant chwaraeon.”
Enillwyd y medalau aur eleni gan Kieran Clements o Shaftesbury Barnet Harriers gogledd Llundain yn y brif ras 10k.
Natasha Cockram, o dîm rasio Micky Morris oedd y fenyw gyntaf o Gymru i ennill y 10k ers dechrau’r 1980au.
Enillydd y ras i bobl mewn cadair olwyn am y bedwaredd flwyddyn yn olynol oedd Richie Powell, Chwaraeon Anabledd Cymru.
Daeth miloedd o bobl i lan môr Abertawe ar gyfer y ras 10k lwyddiannus flynyddol
Daeth miloedd o redwyr a gwylwyr i strydoedd Abertawe ddydd Sul ar gyfer ras 10k Bae Abertawe Admiral.
Cymerodd tua 5,000 o redwyr ran yn un o’r digwyddiadau gorau o’i fath yn y DU, gan ddenu cefnogwyr a chystadleuwyr o bob cwr o’r DU.
Derbyniodd rhedwyr eleni grysau T gyda’r slogan ysgogiadol canlynol arnynt, “All you need is the courage to believe in yourself and put one foot in front of the other.”
Dyfyniad yw hwn gan seren rhedeg pellter hir, Kathrine Switzer, sy’n enwog am ei rhedeg a’i gweithrediaeth gymdeithasol dros chwaraeon i fenywod.
Ynghyd â’r ras 10k, cynhelir hefyd rasys iau 1k, 3k a 5k, ras 10k mewn cadair olwyn a sbrint y masgotiaid dros 100m, a enillwyd eleni gan Matt Clowes, a enillodd £100 ar gyfer ei elusen ddynodedig.
Meddai’r Cyng. Robert Francis-Davies, Aelod Cabinet Cyngor Abertawe dros Arloesedd, Adfywio a Thwristiaeth, “Roedd yn fraint i’n dinas groesawu cynifer o redwyr brwd y penwythnos hwn.
“Mae ras 10k Bae Abertawe Admiral yn cynnwys cwrs sy’n addas i redwyr ynghyd â rhai o’r golygfeydd gorau yn y DU – mae’n ddathliad go iawn o ddiwylliant chwaraeon Abertawe.
“Mae’n ddigwyddiad gwych ar gyfer athletwyr elît, rhedwyr profiadol a phobl sy’n rhedeg am y tro cyntaf, neu unrhyw un sydd am godi arian ar gyfer elusen neu gyflawni heriau ffitrwydd personol.
“Rydym yn falch o’r dorf enfawr a ddaeth i wylio ac a ychwanegodd, unwaith eto, at yr ymdeimlad cymunedol a’r awyrgylch teuluol gwych sy’n helpu i ysbrydoli pawb sy’n cymryd rhan.”
Mae’r digwyddiad wedi ennill y wobr arian am y ras 10k orau yn y DU am y ddwy flynedd ddiwethaf yng Ngwobrau Rhedeg y DU. Pleidleisiwyd y rasys iau hefyd yn Ddigwyddiad Gorau i Blant y DU yng ngwobrau’r llynedd.
Mae holl ganlyniadau’r rasys ar gael i’w gweld ar-lein yn www.swanseabay10k.com/cy/canlyniadau
Bydd ffotograffau swyddogol o’r rasys ar gael yn ddiweddarach yr wythnos hon ar photo-fit.net, gan ffotograffydd swyddogol ras 10K Bae Abertawe Admiral.
- 1
- 2
- 3
- …
- 7
- Next Page »