Gan mai ychydig dros 20 wythnos sydd tan ras 10k Bae Abertawe Admiral, roeddwn i’n credu y byddai’n amser da ailddechrau ysgrifennu blog. Ond yn gyntaf, gadewch i mi gyflwyno fy hun. Fy enw yw Sabastian a hoffwn i fod yn rhedwr brwd. Byddaf yn gofalu am y blog 10k, yn ogystal â’r gefnogaeth a’r cymorth gan ysgrifenwyr gwadd niferus, arbenigwyr rhedeg ac yn y blaen.
Y pwnc cyntaf roeddwn yn credu y dylem sôn amdani yw dod o hyd i bartner rhedeg addas – nid yw rhedeg yn weithgaredd cymdeithasol fel arfer. Mae angen i redeg fod yn rhan o’ch trefn wythnosol – mae cysondeb yn arwain at lwyddiant. Felly, wrth ymarfer rhedeg, mae dod o hyd i bartner rhedeg da y gallech redeg gyda hwy yn rheolaidd yn rhan hanfodol o’ch llwybr at lwyddiant.
Yn ffodus, mae llawer o opsiynau ar gael i chi. Felly, gwnewch eich dewis, a dechrau heddiw.
Os oes gennych ychydig o arian sbâr, pam na wnewch chi fuddsoddi mewn Joggobot, robot cymar i redwyr? Trwy ddefnyddio camera mewnol, mae’r drôn ymreolaethol yn canolbwyntio ar synwyryddion mewn crys arbennig ac yn eich annog i gadw’r un cyflymder. Anghofiwch esgidiau rhedeg ffasiynol a chrysau llachar, bydd y joggobot yn gwneud i chi edrych fel rhedwr proffesiynol ar y ffordd, ond cadwch lygad am beilonau a’r gwyntoedd cryfion dieflig sydd ar arfordir Abertawe.
Nesaf y mae ffrind gorau dyn. Meddyliwch amdano: os oes gennych gi, mae angen mynd ag ef am dro hefyd. Os ydych am gael ychydig o hwyl ar yr un pryd (pwy fyddai ddim?), yna pam na wnewch chi wisgo gwisg ci hefyd (*ci yn mynd â chi am dro?!).Ydych chi erioed wedi gweld *person yn mynd â mwy nag un ci am dro ar yr un pryd, a’r tenynnau’n croesi ac yn cael eu drysu? Sicrhewch nad yw hyn y digwydd i chi. Cofiwch, chi yw rheolwr y gangen, a’r ci yw eich cynorthwy-ydd (mewn theori).
Felly mae angen i chi barhau i dynnu eich ci yn ôl wrth iddo geisio mynd yn gynt na chi; chi sy’n gosod y cyflymdra, ac mae’n bwysig i chi fwynhau rhedeg gyda’ch ci. Ond sicrhewch eich bod yn cadw at yr hyn y dylech ac na ddylech ei wneud wrth redeg gyda’ch ci.
*Sicrhewch eich bod wedi dilyn rhai o’r dolenni, gan fod rhai lluniau doniol a all wneud i chi chwerthin.
Sicrhewch eich bod yn ddigon cryf i ddal eich ci yn ôl cyn i chi fynd â’ch ci allan. Y peth olaf rydych chi am i ddigwydd yw cael eich *tynnu drosodd a’ch anafu, gan fod eich Daniad Mawr wedi gweld cath!
Yn olaf, gallech ddod o hyd i berson go iawn i redeg a siarad ag ef/hi 🙂
Harriers Abertawe | www.swanseaharriers.co.uk |
Cobras yr LC | www.gymswansea.co.uk/lc-cobras |
Swansea Trotters | www.swanseatrotters.com |
Mumbles Milers | www.mumblesmilers.com |
Sicrhewch eich bod wedi darllen am sut i ddod o hyd i’r partner rhedeg addas ar eich cyfer chi. Gall hyn amrywio gan y gall eich amcanion, eich lefel ffitrwydd, eich hoff arwyneb etc. amrywio.
Felly, pam na wnewch chi ddod o hyd i’ch partner rhedeg delfrydol a dechrau heddiw. Dewch yn ôl yr wythnos nesaf ar gyfer post llawn hwyl a chwerthin arall. 🙂
———————————
Oddi wrth eich rhedwr cymdogaeth cyfeillgar
———————————
Oddi wrth eich rhedwr cymdogaeth cyfeillgar