Mae ein blogiwr Georgia wedi dychwelyd â’i hail flog, ac yn rhannu’r wybodaeth ddiweddaraf â ni am ei phroses hyfforddi yn ei hymgyrch i gwblhau ras 10k Bae Abertawe ddydd Sul 24 Medi. Mewn llai na phythefnos ni fydd cyfle rhagor i chi gofrestru i gymryd rhan felly sicrhewch eich bod yn gwneud yn fuan!
Dilynwch aelod newydd o’n tîm ar ei thaith 10k!
Mae llai na 50 niwrnod i fynd nes cynnal ras 10k Bae Abertawe Admiral 2017! Yn Joio Bae Abertawe rydym yn dwlu ar stori bersonol dda, felly ar y cyd â’n Clwb Abertawe Actif 10k, rydym wedi gofyn i aelod mwyaf newydd ein tîm flogio ei phrofiad wrth iddi hyfforddi ar gyfer ein 10k Bae Abertawe Admiral ar 24 Medi.
Dyma’r hyn y mae Georgia yn ei ddweud…
Yn ystod moment wallgof ar ôl fy ngwyliau, rwyf wedi penderfynu gwisgo fy nillad rhedeg, a chofrestru ar gyfer y ras ym Mae Abertawe eleni.
Wrth gwrs, nid wyf yn rhedeg yn broffesiynol, ond nid dyma fy ras 10k gyntaf… Iawn, rwyf wedi rhedeg UN ras 10k o’r blaen, ond mae un yn well na dim! Gan fod llwybr 10k Bae Abertawe Admiral yn wastad, yn gyflym ac yn ddelfrydol, rwy’n bwriadu curo fy amser gorau, sef 56:00.
Rwy’n gweithio wrth ddesg o ddydd Llun i dydd Gwener 8.30am-5.00pm felly nid wyf yn gwneud llawer o ymarfer corff yn ystod y dydd.
Ond fel aelod o Ganolfannau Hamdden Abertawe Actif, byddaf yn manteisio i’r eithaf ar y peiriannau cardio a phwysau ar y diwrnodau haf hyfryd hynny… pan fydd hi’n arllwys y glaw. Rwyf newydd drefnu fy sesiwn 1 i 1 gyntaf ym Mhenlan, byddaf yn eich hysbysu cyn bo hir am sut mae pethau’n mynd.
Heblaw am weithio a cheisio gwneud ymarfer corff, rwy’n dwlu ar goffi a darn o deisen dda (yn enwedig teisen gaws siocled gwyn) a hefyd yn mwynhau mynd â’m ci bach, Buddy, am deithiau cerdded hir ar hyd y traeth. Mae fy niddordebau eraill yn cynnwys edrych trwy ffenestri siopau ar fagiau ni allaf eu fforddio, a gwylio Love Island (ond ni fyddaf yn sôn am fy angerdd dros hwnnw yma)
Fy Naeargi Cymreig x Schnauzer, Buddy
Gan fy mod wedi rhoi cipolwg i chi ohonof, credaf ei bod hi’n amser rhoi wyneb i’r enw. Dyma lun ohonof ar ôl i fi orffen fy ras 10k ym mis Gorffennaf – yn flinedig iawn, yn chwyslyd iawn ac wedi llosgi yn yr haul.
Ar ôl 10k Cymru yn Ninbych-y-pysgod
Mae nosweithiau’r haf yn amser perffaith i hyfforddi (os bydd yr haul yn tywynnu) ac felly’r wythnos nesaf rwy’n bwriadu mynd i ddosbarth ymarfer corff, rhedeg 5k, cael sesiwn pwysau a rhedeg 7k (efallai 8k os gallaf) ar hyd y prom.
Gwiriwch yma bob wythnos i gael y diweddaraf ar fy hyfforddi, hyd at y diwrnod mawr ddydd Sul 24 Medi! Os hoffech gymryd rhan yn yr her gyda fi, cofrestrwch yma erbyn dydd Iau 31 Awst.
Mae hefyd gennym rasys iau 1k, 3k a 5k felly mae’r teulu cyfan yn gallu dod i sicrhau eich bod yn cael diwrnod gwych (sylwer: bod rasys iau ar gael i bobl dan 16 oed yn unig ac nid oedolion – ymddiriedwch ynof rwyf wedi gwirio) Cofrestrwch ar-lein yma erbyn dydd Sadwrn 9 Medi.
Croeswch eich bysedd ar gyfer fy wythnos gyntaf!
Georgia
Ffeithiau hwyl am 10K Bae Abertawe Admiral 2014
• Cawsom y nifer mwyaf o redwyr erioed eleni! 4209
• Mae’n siŵr oherwydd y tywydd, cawsom y nifer mwyaf o ddechreuwyr! 3330
• Rhaid bod pawb wedi bod yn heini iawn, oherwydd cawsom y nifer mwyaf o bobl yn gorffen y ras! 3315
• Enillydd – Jonah Chesum (Cenia/Run-Fast) oedd enillydd paralympaidd cyntaf erioed i ennill y digwyddiad gan osod yr amser personol gorau o 28.54 gan guro ei amser personol gorau ei hun o 6 eiliad.
• Gwnaeth y rhedwr, 61 oed Martin Rees (Les Croupiers) osod ei 49fed amser gorau sengl yn y byd ar gyfer y grŵp oedran 45 i 61 oed ar gyfer pellter o 5k i hanner marathon gydag amser o 33.27. Gan orffen yn y 23ain safle cyffredinol, enillodd y categori dros 60 oed. Yn y broses, curodd record cwrs Abertawe Mike Hager (Tipton) sef 33.45
• Rhedodd John Lovell, rhif ras 25 o Dreboeth, ei 25ain ras 10k Bae Abertawe yn olynol
• Y codwr arian lleol sydd bob amser yn gwisgo rhif ras 57 oedd Captain Beany (oherwydd Heinz 57- ei hoff fwyd!)
• Cafwyd 150 o redwyr hŷn Admiral a oedd yn gwisgo rhifau ras rhwng 101 a 250, ac roedd 17 o blant staff Admiral hefyd yn cymryd rhan.
Does dim angen negeseuon ysgogol – Mae Bae Abertawe yn gwneud popeth
Gydag Abertawe’n cynnal ei hanner marathon cyntaf ym mis Gorffennaf, i ychwanegu at ei holl ddigwyddiadau chwaraeon nodedig eraill, nid oeddwn wedi fy synnu at y nifer o redwyr ar bromenâd 6 milltir Abertawe y penwythnos hwn.
Yng ngeiriau Blondie “mae’r llanw’n uchel” (‘the tide is high‘) – yn y bore beth bynnag – ac yn sicr roedd yna rhai wynebau a oedd yn edrych fel petaent yn “dal ymlaen” (‘holding on‘), ond roedd yn amlwg mai nod pawb oedd bod yn Rhif 1.
Yr hyn rwy’n hoffi am hyfforddi ar brom Abertawe yw bod y nifer helaeth o redwyr yn cadw at y côd “cydnabod chi”. Côd sy’n dod o’r ffaith bod nifer yn credu na ddylech byth daro unrhyw un i lawr sy’n ceisio gwella ei hun – mewn unrhyw agwedd ar fywyd.
Tra bod dyfyniadau ysgogol yn ymddangos dros gyfryngau cymdeithasol, pa ffynhonnell well o ysbrydoliaeth sydd ei hangen arnoch na’r llwybr rhedeg yr es i a channoedd ar gannoedd o bobl eraill arni ddydd Sul? I mi, taith o’r Marina i Ystumllwynarth ac yn ôl oedd hi. Roedd yr haul yn tywynnu a’r llanw i mewn ac roedd hynny’n ddigon i mi.
Cyflym, canolig, neu araf, rhedeg stopio, rhedeg stopio, doedd dim ots, roedd rhedwyr yn gadael i’r lleoliad, yr olygfa a’r cefndir eu helpu. Os ydych fel fi ac wedi dechrau yn y Marina neu efallai San Helen, Blackpill neu’r Mwmbwls, nid oedd modd peidio â chael eich swyno am ychydig, a fel dywedodd un rhedwr “mae fel California!” Ond nid California oedd hwn, ond Bae Abertawe.
Ond a oes wir angen meddwl eich bod yn rhywle arall? Dydw i ddim yn credu hynny, profodd Bae Abertawe hynny ar y penwythnos, ac i’r holl redwyr hynny a oedd yn gwrando ar eu cerddoriaeth rhedeg ac yn cadw cofnod o’u milltiroedd ar eu aps rhedeg, yna rwy’n sicr roedd y milltiroedd yn cynyddu wrth iddynt werthfawrogi’r golygfeydd.
Mae llawer gormod o bobl wedi gwawdio Abertawe dros y blynyddoedd, ond gyda chyfleusterau hyfforddi fel sydd gennym ar y Glannau, does dim angen negeseuon ysgogol. Gwisgwch bâr o esgidiau rhedeg, siorts, a chrys-t ac ewch i Brom Abertawe.
Chwys, pothelli ac 8 milltir yn ddiweddarach, roeddwn i’n padlo oddi ar y grisiau ger y Ganolfan Ddinesig wrth i’m traed barhau i frifo, ac erbyn hyn roedd y prom yn llawn cerddwyr a beicwyr wrth iddynt ymuno â’r rhedwyr wrth i’r tymheredd godi.
Mae neges ysgogol yn un peth, ond does dim teimlad gwell o gyflawniad na rhedeg yn un o’r lleoliadau gorau yn y DU.
Esgidiau rhedeg oren a chrysau-t gwddf uchel – mae’r ffasiwn yn anhygoel
Un peth a wnaeth fy nharo wrth redeg ar y penwythnos oedd pa mor berffaith y gall pobl edrych wrth redeg. Rydw i’n hoffi edrych fy mod wedi cyd-drefnu i raddau ac mae gen i bâr da o esgidiau rhedeg, siorts a chrys-t, ond roedd y ffasiwn ar brom Abertawe yn anhygoel y penwythnos hwn.
Roedd yr esgidiau rhedeg lliwiau llachar arbenigol, oren, gwyrdd llachar a glas, y rhai hynny sydd â phris 3 ffigur arnynt, gan y rhedwyr gorau – y rhai sy’n gwneud y 10K mewn llai na 40 munud.
- « Previous Page
- 1
- …
- 4
- 5
- 6