Daeth y ras flynyddol, a gynhaliwyd eleni ddydd Sul 24 Medi, yn gyntaf yn rowndiau Cymru ar gyfer Gwobrau Rhedeg y DU sydd o fri mawr.
Mae’r system bleidleisio ar-lein bellach wedi ailagor ac mae’n galluogi’r rhai sydd eisoes wedi pleidleisio i bleidleisio eto. Mae Ras 10K Bae Abertawe Admiral ymysg y 12 o rasys sy’n cystadlu am deitl y DU.
Cyngor Abertawe sy’n trefnu 10k Bae Abertawe Admiral, sy’n rhan o raglen blwyddyn gyfan o ddigwyddiadau a gweithgareddau Joio Bae Abertawe.
Ewch i www.therunningawards.co.uk i bleidleisio dros Ras 10k Bae Abertawe Admiral, sy’n cystadlu yn erbyn rasys megis 10k Whitchurch, 10k Berkshire a 10k Doncaster ar y rhestr fer.
Meddai’r Cyng. Robert Francis-Davies, Aelod Cabinet Cyngor Abertawe dros Ddiwylliant, Twristiaeth a Phrosiectau Mawr, “Mae 10k Bae Abertawe Admiral wedi bod yn llwyddiant aruthrol ers iddi gael ei sefydlu ym 1981, gan ddenu miloedd o bobl i gymryd rhan bob blwyddyn.
“Mae’r digwyddiad yn addas ar gyfer athletwyr proffesiynol, rhedwyr amatur a llawer mwy. Gydag ysblander Bae Abertawe yn y cefndir, mae’n un o lawer o ddigwyddiadau sy’n cadarnhau statws Abertawe fel dinas chwaraeon flaenllaw.
“Mae 10k Bae Abertawe Admiral wedi bod ar y rhestr fer ar gyfer gwobr y DU ddwywaith o’r blaen ond nid yw byth wedi ennill. Gallwch helpu i newid hynny drwy bleidleisio dros y digwyddiad cyn gynted â phosib i roi’r gydnabyddiaeth i 10k Bae Abertawe y mae’n wirioneddol yn ei haeddu.”
Yng Ngwobrau Rhedeg y DU 2017, daeth 10k Bae Abertawe Admiral yn ail yng nghategori’r ras 10k orau.
Mae’r cyfle i bleidleisio yn dod i ben ar 15 Mawrth a chynhelir y seremoni wobrwyo ar 19 Ebrill.