Mae miloedd o redwyr yn dechrau cofrestru ar gyfer ras 10k Bae Abertawe Admiral eleni.
Cynllunnir amserau dechrau newydd ar gyfer un o ddigwyddiadau rhedeg arobryn mwyaf Cymru sy’n cynnwys rhai o olygfeydd gorau’r wlad ar hyd y ffordd.
Cyngor Abertawe sy’n cynnal y digwyddiad, ac mae’n cael ei noddi gan Admiral am y bedwaredd flwyddyn ar ddeg yn olynol. Yn ogystal â’r ras 10k, bydd rasys iau 1k, 3k a 5k ynghyd â ras 10k mewn cadair olwyn.
Disgwylir i oddeutu 5,000 o bobl gymryd rhan unwaith eto eleni ar 22 Medi.
Meddai Robert Francis-Davies, Aelod Cabinet Cyngor Abertawe dros Fuddsoddi, Adfywio a Thwristiaeth, “Mae 10k Bae Abertawe Admiral yn un o ddigwyddiadau mwyaf nodedig y calendr rhedeg ac mae’n denu cyfranogwyr o bob rhan o’r DU.
“Yn dilyn adborth gan gyfranogwyr, bydd rasys eleni’n dechrau ychydig yn gynt gyda’r ras 1k i blant 7 oed ac iau’n dechrau am 9.15am a’r brif ras yn dechrau am 11am.
Meddai’r Cyng. Francis-Davies, “Mae Ras 10k Bae Abertawe Admiral, sy’n un o ddigwyddiadau mwyaf poblogaidd y flwyddyn yn Abertawe, yn ras wych i athletwyr profiadol, pobl sy’n codi arian at elusennau a phobl sydd am guro eu hamseroedd gorau neu gyflawni nodau ffitrwydd personol.
“Byddwn yn annog unrhyw un â diddordeb mewn cymryd rhan yn y ras hon ar gwrs gwastad ar hyd ehangder Bae Abertawe i wneud hynny cyn gynted â phosib i osgoi cael ei siomi oherwydd unwaith y bydd lleoedd yn y ras wedi’u llenwi, ni fydd cyfle arall.
Ychwanegodd, “Mae’r bobl sy’n cymryd rhan yn y ras yn gadarnhaol iawn am y profiad oherwydd safon trefnu a rheoli’r ras ac oherwydd y gefnogaeth maent yn ei derbyn gan y cannoedd o bobl sy’n bresennol ar hyd y llwybr.
“Dyma pam mae 10k Bae Abertawe Admiral wedi cael ei chanmol yn y Gwobrau Rhedeg am fod y ras 10k orau yng Nghymru am ddwy flynedd yn olynol a’r rheswm pam rydym wedi cyrraedd y rhestr fer ar gyfer y wobr am y ras 10k orau yn y DU eleni. Mae ychydig o wythnosau ar ôl o hyd i bobl fwrw pleidlais.”
Ewch i swanseabay10k.com/cy i gael mwy o wybodaeth ac i gofrestru. I bleidleisio ar gyfer 10k Bae Abertawe Admiral yng Ngwobrau Rhedeg eleni, ewch i therunningawards.com/vote i fwrw’ch pleidlais erbyn 1 Mawrth.
Manylion llawn:
Amserau’r Rasys:
- 1k (7 oed ac iau) 15am
- 1k (8-11 oed) 9.30am
- 3k (9-14 oed) 10am
- 10k cadeiriau olwyn 5 munud cyn y brif ras
- 10k (15+ oed) 11am
Prisiau Cofrestru:
- £24.50 i oedolion sy’n aelodau o glwb/£26.50 i’r rhai nad ydynt yn aelodau o glwb (gan gynnwys crys T technegol, medal a bag rhoddion
- Plant £7.50 (gan cynnwys crys T technegol, medal, tystysgrif a bag rhoddion)