Wel dyma ni eto! Mae’r wythnosau o hyfforddi’n mynd heibio’n gyflym – alla’ i ddim credu bod yr ‘haf’ wedi dod i ben!
Dyma grynodeb o sesiynau ymarfer yr wythnos ddiwethaf:
Sesiwn 1: Dydd Llun
Sesiwn HIIT a chodi pwysau
Mae cyrraedd y gamfa ar fore dydd Llun diflas bob amser yn teimlo’n gymaint o gyflawniad, yn enwedig pan fyddwch yn symud i fyny hanner lefel cyflymder ar y peiriant rhedeg! Roedd sesiwn HIIT 20 munud ynghyd â chodi pwysau gyda rhan uchaf y corff yn sesiwn ymarfer corff cyfan wych.
Sesiwn 2: Dydd Iau
Rhedeg 8.5km = 46:41
Mae olrheinio’ch sesiynau rhedeg ar ap naill ai’n gallu bod yn ysgogwr gwych neu achosi cryn dipyn o siom – ond nid oes unrhyw beth yn fwy rhwystredig na phŵer y batri’n methu pan rydych yn rhedeg eich 10k cyntaf mewn bron 2 fis. Nodyn i fi fy hun ar gyfer y dyfodol: gwna’n siŵr bod y ffôn wedi’i wefru’n llawn cyn mynd i redeg 10k, yn enwedig yng nghefn gwlad.
Seswin 3: Dydd Gwener
Sesiwn hyfforddiant ysbeidiau
Gan fy mod wedi mynd i ffwrdd am y penwythnos, llwyddais i wneud un sesiwn hyfforddiant ysbeidiau cyn mynd, ac es i allan i’r awyr agored i wneud yn fawr o’r heulwen braf. Gwnes i 20 munud o 30 eiliad ar gyflymdra llawn a 30 eiliad o orffwys o gwmpas cae pêl-droed – roedd Buddy gyda mi hefyd fel partner hyfforddi, ac roedd wrth ei fodd yn ceisio fy maglu yn ystod yr hyfforddiant. Oherwydd hyn, mae ganddo enw newydd, Buddy the Terror Terrier, ac mae’n ddiogel dweud na fydd yn mynd i unrhyw sesiynau hyfforddi eraill.
Gan ei bod hi’n benwythnos Gŵyl y Banc, roeddwn i’n teimlo fy mod wedi gwneud yn dda i gyflawni 3 sesiwn yr wythnos hon – er, yr wythnos nesaf fydd dechrau’r 4 wythnos swyddogol cyn y ras a bydd rhaid i mi fwrw ati o ddifrif i geisio curo fy amser personol gorau o 56:00.
Blog arall cyn bo hir,
Georgia x