Bydd nifer o ffyrdd ar gau ddydd Sul ar gyfer ras 10k Bae Abertawe Admiral.
Disgwylir y bydd tua 4,500 o redwyr yn cymryd rhan yn y brif ras, sy’n dechrau y tu allan i Faes Rygbi San Helen am 1pm ac yn mynd i’r Mwmbwls ac yn ôl.
Cyngor Abertawe sy’n gyfrifol am y digwyddiad. Bydd rasys eraill yn cael eu cynnal ar y diwrnod hefyd, gan gynnwys rasys 1k, 3k a 5k ar gyfer y rhai iau yn ogystal â’r ras 100 metr draddodiadol i fasgotiaid. Mae’r holl leoedd ar gyfer pob ras (heblaw am y masgotiaid) bellach yn llawn, felly ni fydd pobl yn gallu cofrestru i gymryd rhan ar y diwrnod.
Bydd y ffyrdd a restrir isod ar gau rhwng tua 12pm a 2pm.
Amcangyfrifon yw’r amseroedd ailagor oherwydd maent yn dibynnu ar gyflymder y rhedwyr.
Lle bo’n bosib mae llwybrau dargyfeirio ar gael. Darperir gwybodaeth i’r holl leoliadau ger y cwrs y gallai’r trefniadau effeithio’n uniongyrchol arnynt.
Amseroedd* | Ffordd | Nodiadau |
12:00 – 13:30 | Heol y Mwmbwls | Ffordd ar gau rhwng Heol Neuadd y Ddinas-De a Lôn Sgeti. |
12:00 – 13:30 | Lôn Brynmill | Ffordd ar gau rhwng Heol y Mwmbwls a Heol Bryn, ac eithrio mynediad i gyfeiriad y de i’r Rec gerllaw Lôn Brynmill ar gyfer parcio, os bydd lle ar gael. |
12:00 – 12:45 | Lôn Sgeti | Troi i’r dde yn unig ar Heol y Mwmbwls . |
12:45 – 13:45 | Lôn Sgeti | Ffordd ar gau (i gyfeiriad y de)
Cynhelir mynediad i Ysbyty Singleton a Phwll Cenedlaethol Cymru |
12:45 – 13:45 | Heol y Mwmbwls | Ffordd ar gau i gyfeiriad y Mwmbwls yn unig rhwng Lôn Sgeti a Heol Mayals.
Troi i’r chwith yn unig (tuag at ganol y ddinas) o Heol Ashleigh, Heol Derwen Fawr, Lôn y Felin a Heol Mayals. |
12:45 – 13:45 | Heol y Mwmbwls | Ffordd ar gau rhwng Heol Mayals a Heol Fairwood. |
12:45 – 14:00 | Heol y Mwmbwls | Ffordd ar gau i gyfeiriad y Mwmbwls yn unig rhwng Heol Fairwood a Heol Newton .
Troi i’r chwith yn unig tuag at ganol y ddinas o Heol Alderwood, Lôn Bethany, Palmyra Court, Rhodfa Norton a Heol Newton. |