Mae hi wedi bod yn hyfforddi ers dros pythefnos bellach a chyda llai na mis ar ôl, mae Georgia’n dechrau cynyddu’r gwaith a chanolbwyntio ar guro’r amser personol gorau hwnnw! Dyma ran nesaf ei blog hyfforddiant yn barod ar gyfer Ras 10k Bae Abertawe Admiral ddydd Sul 24 Medi.
Dyma’r ffeithiau am hyfforddiant yr wythnos ddiwethaf – rhai sesiynau da, rhai oedd yn gwneud i fi eisiau rhoi’r ffidil yn y to, ond dim amser i boeni am fethiant, mae’r cloc yn tician ac mae pob munud o hyfforddiant yn helpu!
Sesiwn 1: Dydd Mawrth
Rhedeg am 7k – 33:57
Dwi ddim yn siŵr a oedd nam ar fy ap Strava neu a oeddwn i wedi rhedeg mor gyflym â hynny go iawn, ond dyma’r hyn oedd yn dangos wrth i fi redeg ddydd Mawrth. Yn ystod y rhediad hwn, ces i fy amser personol gorau ar gyfer y 5k hefyd = 23:37!! Ffordd wych i ddechrau wythnos arall o hyfforddiant, croesi bysedd y bydd yr ysgogiad yn parhau (dyna’r gobaith)
Sesiwn 2: Dydd Mercher
Sesiwn Pwmpio’r Corff 60 munud
Rai dyddiau dyw’r awydd ddim gennych chi i wneud unrhyw fath o ymarfer corff a dyma un o’r dyddiau hynny’n sicr. Fodd bynnag, gan fod fy mlog cyntaf wedi cael ei gyhoeddi heddiw ac mae’n rhy hwyr i dynnu nôl nawr, ces i chwistrelliad o frwdfrydedd tua amser cinio a threfnu dosbarth ymarfer corff am 6pm. Dwi’n falch fy mod i wedi llwyddo i orfodi fy hun i ymarfer, gan fod hyd yn oed ymarfer gwael yn well na pheidio ag ymarfer o gwbl!
Sesiwn 3: Dydd Iau
Sesiwn cyflymder, 9km – 47:25
Byddech chi’n meddwl y byddai sesiwn ysbeidiau yn waith caled am ddim ond 20 munud ac yna byddech chi’n rhydd am weddill y noson – ond nes i ddewis sesiwn a oedd yn para 48 munud hir. Roedd yn wych rhoi cynnig ar rywbeth gwahanol a gweithio ar gyflymderau gwahanol na fy nhrefn arferol; roedd y sesiwn hon yn agoriad llygaid o ran yr hyn y mae angen i fi ei wneud dros y mis nesaf er mwyn i fi wneud y 10k mewn llai na 56 munud.
Sesiwn 4: Dydd Sadwrn
Sesiwn codi pwysau yn y gampfa
Mae rhywbeth mor foddhaol am gyrraedd y gampfa erbyn 10am ar fore dydd Sadwrn, efallai oherwydd ei fod yn golygu bod gennyf i’r holl benwythnos i ymlacio ar ôl i fi orffen erbyn 11am. Ta beth, roedd y sesiwn hon yn canolbwyntio ar fy mreichiau a chanol fy nghorff (mae fy nghoesau’n cael digon o ymarfer fel y mae ar hyn o bryd) a llwyddais i hyd yn oed guro fy ngorau personol am wasg-frest dymbel ar fy nghefn! Dyna ffordd wych i ddod ag wythnos lwyddiannus i ben!
Ar yr ochr gadarnhaol, dwi wedi cael cipolwg ar y bagiau nwyddau y bydd pawb sy’n cymryd rhan yn y 10k yn eu derbyn (ynghyd â chrysau T swyddogol Ras 10k Bae Abertawe Admiral, hynny yw) a bydda i’n rhoi gwybod i chi am gyfrinach fach … mae ganddyn nhw BOPETH sydd ei eisiau/ei angen/y gallech freuddwydio amdano ar ôl rhedeg 10k.
Gan fod llai na mis bellach tan ddiwrnod y ras, bydda i cyn bo hir yn rhannu rhai o’r eitemau sydd gennyn ni yn fy mlog nesaf ac ar ein tudalennau Facebook a Twitter @JoioBaeAbertawe yn y cyfnod cyn 24 Medi, fel gwobr am ddilyn fy nhaith hyfforddiant ar gyfer y 10k.
Os ydych chi am gael eich dwylo ar un o’r bagiau, gwnewch yn siŵr eich bod chi’n cofrestru erbyn dydd Iau 31 Awst!
Blog arall cyn bo hir,
Georgia x