Gwahoddir rhedwyr i gofrestru ar gyfer ras 10K Bae Abertawe Admiral 2020.
Gallwch gyflwyno cais heddiw (TBC) a bydd prisiau cynnar am gofrestru tan ddiwedd mis Chwefror.
Mae’r digwyddiad arobryn – sy’n cynnwys rhai o’r golygfeydd gorau ym maes athletau ar hyd y ffordd – wedi cael ei enwebu unwaith eto ar gyfer gwobr Ras 10k orau’r DU yng Ngwobrau Rhedeg 2020.
Cyngor Abertawe sy’n cynnal y digwyddiad, ac mae’n cael ei noddi gan Admiral am y bymthegfed flwyddyn yn olynol. Yn ogystal â’r ras 10k, bydd rasys iau 1k, 3k a 5k ynghyd â ras 10k mewn cadair olwyn.
Disgwylir i oddeutu 5,000 o bobl gymryd rhan ar ddydd Sul 20 Medi, sef 40fed ras 10k Bae Abertawe. Mae’r ras wedi mynd o nerth i nerth ers ei sefydlu ym 1981 ac mae’r cyngor yn bwriadu dathlu’r pen-blwydd arbennig hwn.
Meddai Robert Francis-Davies, Aelod Cabinet y Cyngor dros Fuddsoddi, Adfywio a Thwristiaeth, “Mae ras 10k Bae Abertawe Admiral yn wych ar gyfer athletwyr ar lefel elît, pobl sy’n codi arian ar gyfer elusennau a’r rheini sy’n ceisio curo’ch amser gorau neu drechu’ch nodau ffitrwydd.
“Gyda chefndir bae hyfryd Abertawe ar gwrs gwastad, mae’r digwyddiad yn un nodedig yn y calendr rhedeg ac mae’n denu cyfranogwyr o bob cwr o’r DU. Mae’n nodwedd boblogaidd iawn o galendr digwyddiadau blynyddol Abertawe.
“Byddem yn annog unrhyw un sydd â diddordeb i gofrestru cyn gynted â phosib er mwyn osgoi cael eich siomi oherwydd unwaith y bydd y lleoedd ar gyfer y ras wedi’u gwerthu, ni fydd rhagor ohonynt.
“Mae’r digwyddiad yn parhau i dderbyn adborth cadarnhaol bob blwyddyn gan gyfranogwyr o’r gorffennol sy’n clodfori safon trefnu’r ras, a’r gefnogaeth maent yn ei derbyn o’r cannoedd o bobl sy’n cefnogi ar hyd y llwybr.”
Bydd prisiau cynnar am gofrestru ar gael tan 29 Chwefror. Ewch i swanseabay10k.com i fanteisio ar y cyfle. Bydd y ffi safonol yn berthnasol o 1 Mawrth.