Rydym yn hynod falch o fod yn “Bartner Dŵr Swyddogol” i ras 10k Bae Abertawe Admiral eleni ac ar ben hyn, maen nhw’r un mor frwd dros ailgylchu â ni! Gallech ddweud mai dyma’r bartneriaeth berffaith.
Os nad oeddech yn gwybod eisoes, ni yw meistri’r gêm ailgylchu yma yn Princes Gate. Ac rydym mor gyffrous o fod yn cyflwyno cyflenwad ‘dolen gaeedig’ i 10k Bae Abertawe Admiral, gyda’n poteli’n cael eu gwneud o blastig wedi’i ailgylchu 100% ac sy’n ailgylchadwy.
Ydy, mae’n wir, potel Princes Gate sydd wedi’i wneud yn gyfan gwbl o boteli eraill (heblaw am y caead a’r label).
Os nad ydych yn gwybod eisoes, rydym yn galw’r detholiad hwn “Ein potel wyrddaf erioed” am ei fod yn wirioneddol wyrdd i gyd.
Ond mae angen eich help arnom, os gwelwch yn dda?!
Felly byddwn yn rhoi ein dŵr mwnol Cymreig naturiol hyfryd i chi i’ch hydradu ar hyd y cwrs ond byddwn hefyd yn darparu biniau ailgylchu smart i chi roi neu daflu’r poteli gwag ynddyn nhw.
Caiff y rhain eu casglu wedyn a rhoddir bywyd arall iddyn nhw ar ôl y ras. Gwych on’d ife!
Gyda’n gilydd gadewch i ni gadw Abertawe’n lân yn ystod 10k Bae Abertawe Admiral a byddwch CHI yn dod yn….
“Archarwr Ailgylchu a Rhedeg 10k Bae Abertawe”
Rhedeg. Ailhydradu. Ailgylchu.