Gweithredydd rhyngwladol i gael ei chydnabod gan ras 10k Bae Abertawe Admiral
Bydd seren y byd rhedeg pellter hir yn cael ei chydnabod gan ras 10k Bae Abertawe Admiral ddydd Sul.
Bydd trefnwyr y digwyddiad yn cydnabod Kathrine Switzer am ei rhedeg a’i gweithrediaeth gymdeithasol dros chwaraeon i fenywod.
Bydd dyfyniad gan Switzer, a fydd ar bob crys T a roddir i’r rheiny sydd wedi cofrestru ar gyfer y ras ffordd, yn annog rhedwyr i fod yn ddewr ac yn ddiofn.
Mae’n dweud, “All you need is the courage to believe in yourself and put one foot in front of the other.”
Mae Switzer yn adnabyddus am ei hymdrechion blaengar o ran rhedeg a’i chyfraniadau gydol gyrfa at chwaraeon drwy’i gwaith fel eiriolwr dros chwaraeon i fenywod a byw’n iach.
Dywedodd Kathrine Switzer, “Hoffwn i redeg ras 10K Bae Abertawe Admiral fy hun yn y dyfodol. Mae’r digwyddiad yn datblygu mewn statws bob blwyddyn ac rwy’n gobeithio y bydd miloedd o bobl ar hyd y llwybr i gefnogi’r cyfranogwyr.”
Dywedodd y Cyng. Robert Francis-Davies, Aelod Cabinet Cyngor Abertawe dros Arloesedd, Adfywio a Thwristiaeth, “Mae Kathrine Switzer a’i sefydliad nid er elw, 261 Fearless, wedi ysbrydoli miliynau o bobl ar draws y byd. Rwyf wrth fy modd ei fod wedi cytuno i’n galluogi i ddefnyddio dyfyniad Kathrine ar ein crysau T ar gyfer y digwyddiad. Mae’n sicr o ysbrydoli’r 5000 o redwyr y disgwylir iddynt gymryd rhan.”
Ras 10k Bae Abertawe Admiral bellach yw’r ras orau yng Nghymru. Y penwythnos hwn, gyda chefndir hardd Bae Abertawe, bydd rhedwyr o bob lefel a phrofiad yn cystadlu yn y ras 10k. Cynhelir rasys iau 1K, 3K a 5K er mwyn rhoi cyflwyniad i redwyr ifanc, ni waeth beth yw eu rhyw, i’r gamp. Cynhelir hefyd ras 10k mewn cadeiriau olwyn a Ras y Masgotiaid gan Fae Abertawe.
Llun Crys T ar gyfer Ras 10K Bae Abertawe Admiral sy’n cynnwys dyfyniad gan Kathrine Switzer.