Dros yr ychydig wythnosau nesaf i ddathlu ein pen-blwydd yn 40 oed, bydd Nigel Jones, sydd wedi bod yn Gyfarwyddwr Rasys 10k Cyngor Abertawe ers 1986, yn archwilio’i archif 10k helaeth ac yn siarad â rhai o’r bobl allweddol sydd wedi bod yn rhan o’r ras dros y blynyddoedd.
Mae ein herthygl gyntaf am Chris Peregrine, a oedd yn gweithio fel newyddiadurwr ifanc ar gyfer South Wales Evening Post ym 1981. Hyrwyddodd Chris yr awgrymiadau ar gyfer sut i ddechrau hyfforddi, ysgrifennodd erthyglau cyn ac ar ôl rhai o rasys 10k cynnar Bae Abertawe a chymerodd ran yn y ras gyntaf…
Gwnaeth pobl o fath penodol estyn y ffiniau ym 1981.
Gyda chychwyniad Marathon Llundain ym mis Mawrth y flwyddyn honno, newidiodd wyneb rasio am hwyl am byth, gan ganiatáu amaturiaid i redeg ochr yn ochr â pherfformwyr ar lwyfan proffil uchel, yr oedd llwyddiant y ras wedi cyrraedd lefelau annirnadwy dros y blynyddoedd dilynol. A gellid dweud yr un peth am ras gyntaf 10k Bae Abertawe, a ddilynodd olion traed Llundain ym mis Hydref y flwyddyn honno.
Ond does dim gwerth trefnu digwyddiad i dorf o gyfranogwyr os nad oes unrhyw un yn gwybod amdano. Roedd yn rhaid lledaenu’r neges, a pha ffordd well o wneud hynny na thrwy’r papur newydd sy’n parhau i wasanaethu’r gymuned, y South Wales Evening Post? Roeddem yn barod am yr her.
Caiff y dywediad “gweithio mewn partneriaeth” ei ddefnyddio’n helaeth heddiw, ond nôl ym 1981, nid oedd dilyn ymagwedd gydlynol yn boblogaidd iawn. Roedd llwyddiant y Marathon Llundain cychwynnol wedi amlygu’r potensial ar gyfer cyflwyno digwyddiad sy’n ysbrydoli pobl i wthio’u hunain. Yn Neuadd y Ddinas Abertawe, roedd staff yr adran hamdden ar y pryd yn rhagweld y byddai’r digwyddiad a oedd yn cael ei gynllunio hefyd yn cynnig cyfle newydd ar gyfer ‘rhedeg i bawb’. Penodwyd John Collins, aelod profiadol o Harriers Abertawe, gan y cyngor i helpu Andrew Reid a Dave Flynn i drefnu’r digwyddiad. Roedd dyn arall â phrofiad yn y maes hwn i alw arno hefyd. Tair blynedd yn flaenorol, roedd Berwyn Price wedi ennill medal aur i Gymru yn ras clwydi 110 metr Gemau’r Gymanwlad yn Edmonton, Canada, ac roedd yn digwydd bod yn gydweithiwr i Andrew a Dave.
Roedd y tîm wedi’i ffurfio ac roedd angen rhywun o noddwyr y digwyddiad, The Evening Post, i ledaenu’r gair. Roedd yn bryd chwilio am yr hen dracwisg a threnyrs Adidas. Er nad oedd rhedeg ar y strydoedd yn newydd i rai pobl, roedd eraill yn teimlo bod angen arweiniad arnynt ynghylch sut i ymgymryd â llwybr rhedeg 6.2 milltir o hyd, felly penderfynwyd cyhoeddi awgrymiadau hyfforddi wythnosol. Roedd teimlad da yn y cyfnod cyn y digwyddiad y gallai’r ras newydd hon o’r enw ras 10k Bae Abertawe fod yn dechrau rhywbeth mawr. Ar ôl i fi rhoi gwybod i’r ymgeiswyr am yr ymdrech gorfforol y byddai’n ofynnol ganddynt wrth baratoi am y digwyddiad, ac yn ystod y ras ei hun, er cwrteisi penderfynais ymuno â’r 2,000 o redwyr eraill wrth y llinell ddechrau ar ddiwrnod y ras.
Felly, gan wisgo crys-t Post People, rhedais o St Helens tuag at y Mwmbwls ac yn ôl eto. Rwy’n cofio gofyn ym mhapur newydd y diwrnod canlynol a oedd dwy ras yn cael eu cynnal, gan ei fod yn ymddangos bod rhedwyr yn rhedeg tuag ataf wrth iddynt anelu am adref. Athletwyr profiadol oedd y rhain, yn ôl y sôn. Ond gan gadw at frandio fy nghrys, penderfynais redeg gyda’r bobl roeddwn i’n fwy cyfarwydd â nhw, y rhai oedd yn darllen y post, er nid oedd llawer o sgwrs rhyngom wrth i’r milltiroedd gynyddu. Ar ryw adeg, gwelais y llinell derfyn a chyfnod byr wedi hynny, sylweddolais y byddai’r digwyddiad hwn yn datblygu’n rhywbeth mawr.
Chris Peregrine
Awdur Masnachol, South Wales Evening Post, WalesOnline