Bythefnos yn unig sydd ar ôl i bobl sy’n dwlu ar ffitrwydd a chodi arian i elusennau gyflwyno’u ceisiadau ar gyfer 10k Bae Abertawe Admiral eleni.
Cyngor Abertawe sy’n gyfrifol am y digwyddiad, sy’n cael ei noddi gan Admiral. Yn ogystal â’r ras 10k, bydd rasys iau 1k a 3k ynghyd â ras 10k mewn cadair olwyn. Disgwylir i oddeutu 5,000 o bobl gymryd rhan yn y ras boblogaidd hon unwaith eto eleni.
Meddai Robert Francis-Davies, Aelod Cabinet Cyngor Abertawe dros Fuddsoddi, Adfywio a Thwristiaeth, “Mae Ras 10k Bae Abertawe Admiral, sy’n un o ddigwyddiadau mwyaf poblogaidd y flwyddyn yn Abertawe, yn ras wych i athletwyr profiadol, pobl sy’n codi arian ar gyfer elusennau a phobl sydd am guro eu hamseroedd gorau neu drechu nodau ffitrwydd personol.
“Gyda golygfeydd prydferth Bae Abertawe yn y cefndir a’r ras yn cael ei rhedeg ar lwybr gwastad, mae’r digwyddiad arobryn hwn hefyd yn cynnwys rasys i blant sy’n rhoi cyflwyniad perffaith i redeg ar y ffordd iddynt.”
Mae Ras 10k Bae Abertawe Admiral wedi ennill sawl gwobr dros y blynyddoedd ac roedd tua 4,000 o redwyr wedi cymryd rhan ym mhrif ras y llynedd, ar gwrs a oedd yn mynd o safle San Helen i’r Mwmbwls ac yn ôl.
“Mae’r bobl sy’n cymryd rhan yn y ras yn gadarnhaol iawn am y profiad oherwydd safon trefnu a rheoli’r ras ac oherwydd y gefnogaeth maent yn ei derbyn gan y cannoedd o bobl sy’n bresennol ar hyd y llwybr.
“Gyda’r dyddiad cau ar ddiwedd mis Awst, hoffwn annog unrhyw un sydd â diddordeb mewn cymryd rhan yn nigwyddiad eleni i gofrestru cyn gynted â phosib i osgoi cael eich siomi. Hyn a hyn o leoedd sydd ar ôl ac mae’r ras bob amser yn llawn, yn aml cyn y dyddiad cau.”
Dyma’r 16eg ras 10k Bae Abertawe y mae Admiral wedi’i noddi. Meddai Paul Billington, Rheolwr Lles a Chymorth yn y Gweithle Admiral UK, “Rydym yn falch o gefnogi ras 10k Bae Abertawe Admiral am yr 16fed flwyddyn.
“Mae’n wych gweld cynifer o bobl yn dod at ei gilydd i gymryd rhan, o athletwyr proffesiynol i’r rheini sy’n rhoi cynnig arni am y tro cyntaf. Mae dros 200 o weithwyr Admiral wedi cofrestru ar gyfer yr her ac maent yn edrych ymlaen at ddigwyddiad gwych arall. Pob lwc i bawb a fydd yn cymryd rhan!”