Yn ôl yn y byd go iawn ar ôl gwyliau gwych – seibiant am wythnos yn yr heulwen gynnes – hyfryd! Wedi cael seibiant o bythefnos o redeg ac ymarfer corff i fwynhau’r tywydd gwych gartref (lwcus iawn i ddychwelyd i’r heulwen) ond roedd yn rhaid i mi baratoi ar gyfer y Ras am Fywyd ar 21 Gorffennaf. [Read more…]
Fy 10k cyntaf
O diar! Mae’n fis Mehefin o hyd ond rwyf wedi cwblhau fy nhaith 10k gyntaf – hwre! Ni allaf gredu fy mod wedi’i gwneud ac mewn amser eithaf da hefyd (rwyf wrth fy modd) 59 munud a 25 eiliad! Ac (rwy’n teimlo’n eithaf hunanfodlon) roeddwn wedi mwynhau er ei fod yn eithaf pell. Y nod bellach yw rhedeg 5 munud yn gynt ym mis Medi.
Cyrhaeddais y tŷ wedi blino’n lân ac yn llwgu – oes unrhyw un arall wedi ymateb fel hyn i’w taith 10k gyntaf? Roeddwn fel Slimer o Ghostbusters ac yn taflu bwyd i’m ceg yn gyflym. Roedd fy merched yn dweud, wyt ti’n iawn mam, wrth lygadu’r bwyd. Rwy’n credu wnes i roi braw iddynt. Ac rwyf wedi blino’n lân yr wythnos hon. Nid wyf yn credu y byddaf yn rhedeg 10k llawer cyn y ras ym mis Medi. Y ras nesaf yw’r Ras am Fywyd 5k – rwy’n anelu at 25 munud – croesi bysedd. Rwyf yn mynd ar wyliau yr wyf yn ei haeddu yr wythnos nesaf felly dim rhedeg, llawer o heulwen a gwin a bwyd gwych – hwre!
18 o rhediadau ac lan i 8K
Mae’r tywydd yn cynhesu a hyd yn hyn (ganol mis Mehefin), rwyf wedi cwblhau 18 taith redeg ac rwyf wedi cyrraedd 8k. Mae’n ymddangos fel pellter da ond fy amser yw 6 munud am bob km o hyd. [Read more…]
Treinars newydd
Mae’n anodd mynd fwy nag unwaith yr wythnos, ond rwyf wedi ceisio mynd ddwywaith yr wythnos. Un ar ddydd Sul ac un ar ddydd Mawrth – mae fy nghoesau’n brifo felly rwy’n meddwl stopio rhedeg ar ddydd Mawrth. [Read more…]
7K!
7k – mae’n bell yn fy marn i yn enwedig gan ei fod yn mynd â chi hyd at Glwb Rygbi Dyfnant ond rwyf wedi gwneud ychydig o deithiau. Y mis hwn (Ebrill) rwyf wedi llwyddo i fynd ar ychydig deithiau rhedeg – 6 i fod yn fanwl gywir ond yna rhedais allan o amser i ddiweddaru fy mlog. [Read more…]