Gwahoddir rhedwyr i gofrestru ar gyfer ras 10K Bae Abertawe Admiral a fydd ar thema’r 80au.
Yn dilyn y cyhoeddiad mwyaf diweddar gan Lywodraeth Cymru ynghylch digwyddiadau awyr agored, mae Cyngor Abertawe yn falch o allu parhau i gynllunio ar gyfer ras 10k Bae Abertawe Admiral eleni a gynhelir ddydd Sul 19 Medi.
Fel yr holl ddigwyddiadau rhedeg yng Nghymru, gohiriwyd ras y llynedd o ganlyniad i bandemig COVID-19. Mae digwyddiad eleni’n mynd i fod yn un arbennig iawn gan y bydd yn nodi’r 40fed tro i’r ras boblogaidd hon ar hyd cwrs gwastad a hynod olygfaol gael ei chynnal.
Ers ei ddechreuad ym 1981, mae’r digwyddiad wedi ennill gwobrau niferus yn gyson, ac mae Cyngor Abertawe yn cynllunio i ddathlu’r pen-blwydd arbennig hwn. Bydd digwyddiad eleni’n ymwneud â dathlu’r 40fed ras a degawd bythgofiadwy’r 1980au – meddyliwch am gynheswyr coesau, bandiau chwys, gwallt mawr a lliwiau llachar!
Os ydych chi’n ystyried dechrau rhedeg ffordd unwaith eto, neu os ydych chi a’ch ffrindiau am redeg yn gwisgo gwisg ffansi, ymunwch â’r hwyl a chofrestrwch ar-lein heddiw. Cofiwch wrando ar faledi pwerus yr 80au wrth i chi hyfforddi!
P’un a’i hon yw eich ras 10k Bae Abertawe gyntaf neu’ch 40fed tro, edrychwn ymlaen at eich gweld wrth y llinell gychwyn.
Mwy o wybodaeth a cofrestrwch ar-lein
Sicrhawyd lleoedd i’r rheini a gofrestrodd ar gyfer digwyddiad 2020 yn awtomatig ar gyfer digwyddiad dathliadol eleni.
Cofrestrwch gyda hyder
Bydd Tîm Digwyddiadau’r cyngor yn parhau i fonitro sefyllfa’r pandemig yn agos. Cynhelir y ras yn unol â rheoliadau a chanllawiau Llywodraeth Cymru, Iechyd Cyhoeddus Cymru ac Athletau’r DU sy’n berthnasol ar y pryd. Mae cynlluniau’n cael eu datblygu a’u hadolygu wrth i wybodaeth a chanllawiau newydd gael eu cyhoeddi a gallai hyn gynnwys newidiadau a mesurau ychwanegol i sicrhau bod y digwyddiad yn ddiogel i bawb a fydd yn cymryd rhan, gan gynnwys y gymuned leol ehangach.
Bydd yr holl randdeiliaid, swyddogion, gwirfoddolwyr a chyflenwyr perthnasol y digwyddiad, h.y. pawb sy’n cymryd rhan, yn ymrwymedig i gynnal digwyddiad diogel o ran COVID-19 yn unol â’r rheoliadau perthnasol ar y pryd. Rydym yn gobeithio y byddwch yn ymuno â ni i sicrhau ei fod yn ddigwyddiad diogel a llwyddiannus.
Cychwynnwyd y ras gan Gyngor Abertawe ym 1981 ac mae wedi parhau i’w threfnu ers hynny – gan sicrhau ei bod wedi’i gwreiddio’n gadarn yn rhaglen ddigwyddiadau flynyddol Abertawe. Dyma fydd y 15fed achlysur hefyd i gwmni Admiral noddi’r digwyddiad, sydd yn ogystal â’r 10k yn cynnig rasys hwyl iau 1K a 3K, ynghyd â ras 10k i bobl mewn cadair olwyn a ras masgotiaid.
Meddai Robert Francis-Davies, Aelod Cabinet Cyngor Abertawe dros Fuddsoddi, Adfywio a Thwristiaeth, “Mae ras 10k Bae Abertawe Admiral yn ddigwyddiad gwych i athletwyr elît, pobl sy’n codi arian ar gyfer elusennau a’r rheini sy’n ceisio curo’u hamser gorau neu drechu nodau ffitrwydd.
“Mae’r digwyddiad hwn a gynhelir ar gwrs gwastad a chyda bae hyfryd Abertawe yn gefndir iddo, yn un nodedig yn y calendr rhedeg ac mae’n denu cyfranogwyr o bob cwr o’r DU. Mae’n nodwedd boblogaidd iawn o galendr digwyddiadau blynyddol Abertawe.
“O gofio bod cynifer o rasys wedi’u canslo dros y flwyddyn a hanner diwethaf, ac mai dyma’n 40fed digwyddiad, rydym yn rhagweld y bydd y galw am leoedd yn uchel. Byddem felly’n annog unrhyw un sydd â diddordeb i gofrestru cyn gynted â phosib er mwyn osgoi cael ei siomi oherwydd unwaith y bydd y lleoedd ar gyfer y ras wedi’u llenwi, ni fydd rhagor ar gael!”
Meddai Rhian Langham, Pennaeth Gwasanaethau Pobl Admiral, “Rydym yn falch o barhau i noddi ras 10k a rasys hwyl Bae Abertawe Admiral am y 15fed flwyddyn. Mae cefnogi diwyddiadau yn ein cymuned leol yn rhan fawr o’n diwylliant yma yn Admiral felly mae’n wych bod yn rhan o ddigwyddiad fel hyn, yn enwedig ar ôl blwyddyn heriol. Hoffwn achub ar y cyfle hwn, ar ran pawb yn Admiral, i ddymuno pob lwc i’r holl redwyr.”